Cwmni Aston Martin i greu 750 o swyddi yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae Aston Martin wedi cyhoeddi y bydd yn adeiladu ei gar newydd yn ne Cymru, gan greu 750 o swyddi.
Bydd y DBX crossover yn cael ei wneud yn Sain Tathan, Bro Morgannwg.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi cymryd dwy flynedd i sicrhau'r cytundeb wrth iddyn nhw wynebu cystadleuaeth gan 20 o safleoedd ar draws y byd.
Bydd y cyhoeddiad swyddogol yn cael ei wneud mewn cynhadledd i'r wasg yng Nghaerdydd ddydd Mercher.
Fe fydd y datblygiad yn cynnwys academi sgiliau, "fydd yn gwneud Sain Tathan a Bro Morgannwg yn ganolfan rhagoriaeth."
'Perthynas hirdymor'
Mae disgwyl i'r gwaith ddechrau ar y ffatri yn 2017, gyda'r gwaith cynhyrchu i ddechrau tair blynedd yn ddiweddarach.
Bydd gwerth y cytundeb yn y cannoedd o filiynau o bunnau, ond dyw Llywodraeth Cymru heb fanylu ar faint o gefnogaeth sy'n dod ganddyn nhw.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones mai dyma ddechrau perthynas hirdymor rhwng Cymru ag Aston Martin.
"Fe fyddwn ni'n gweithio gyda'n gilydd i adeiladu sylfaen gref i'n perthynas a sicrhau dyfodol llewyrchus a gwerthfawr ar gyfer y cwmni eiconig yma a'i weithlu yng Nghymru," meddai.
Bydd y car yn rhedeg ar drydan, ac mae disgwyl iddo gostio £160,000.
"Mae penderfyniad Aston Martin i fuddsoddi yn ei ffatri yn Sain Tathan yn foment arwyddocaol yn hanes y sector foduro yng Nghymru," meddai'r Gweinidog Economi, Edwina Hart.
"Mae gennym ni fwy 'na 150 o gwmnïau sy'n cynhyrchu cyfarpar i'r diwydiant, ond dyma'r tro cyntaf ers bron i 50 mlynedd y byddan ni'n gweld cerbydau'n dod oddi ar y llinell gynhyrchu yng Nghymru."