Ateb y Galw: Rhydian Roberts

  • Cyhoeddwyd
Rhydian Roberts

Y canwr Rhydian Roberts sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddo gael ei enwebu gan y berfformwraig Connie Fisher.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Roedd fy mam yn arfer canu i mi pan odd hi'n disgwyl fi. Mae arbenigwyr wedi dweud fod babis yn gallu clywed eu rhieni yn siarad a chanu, ac mae gen i gof o hyn. Mae llais hyfryd ganddi.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Sian Reese-Williams, hi oedd fy nghariad cynta'. Mae hi bellach yn actores, ar 'Emmerdale' ymysg pethau eraill. Wnaethon ni actio priodi pan oedden ni'n blant bach a ganddi hi ges i fy nghusan cynta'.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

O'n i mewn digwyddiad yng Nghymru yn eitha' buan ar ôl gwneud 'X-Factor'. Wnes i gyfarfod â Rhodri Morgan, a wnes i sgwrsio gyda fe gan ddweud "dwi wedi pleidleisio drostach chi yn y gorffennol, hwyl Mr Wigley"...wps!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Dwi ddim yn crio yn aml ond fe ddigwyddodd hyn yn eitha' diweddar pan wnes i a fy nghariad dorri lan.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi wrth fy modd yn prynu suits. Dwi'n gwario llawer gormod arnyn nhw. Dwi hefyd yn yfed llawer gormod o squash a the, a gan bo fi'n gwneud hynny tan yn hwyr yn y nos, dwi'n deffro'n aml i fynd i'r toiled.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

O ran ardal mi fyswn i'n dweud Sir Benfro, mae'n hyfryd. Ond o ran adeilad, Canolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd. Mae'n un o'r neuaddau cyngherdd gorau yn Ewrop ac mae acoustics gwych yno.

Fe ges i lechen gyda fy enw arni yn y ganolfan, ac r'on i'n ddigon ffodus i gael yr un drws nesaf i un o fy arwyr, Bryn Terfel.

Disgrifiad o’r llun,

Mae llechen Rhydian yma yn rhywle...

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Fy mhen-blwydd diweddar. O'n i efo ffrind, sy'n hogan ddeniadol, mewn bwthyn ac roedd yna hot tubyn y cefn. Roedden ni'n edrych ar y sêr uwchben, roedd e'n hyfryd.

Yna fe ges i alwad ffôn i ddweud bod fy ngrŵp Vox Fortis wedi cyrraedd rownd gyn-derfynol 'Britain's Got Talent'.

Noson arall gofiadwy oedd pan enilles i Wobr Kathleen Ferrier am ganwr ifanc gorau yn 2004. Roedd hynny yn anrhydedd anferthol ac yn gwbl annisgwyl.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Cryf, uchelgeisiol a gonest.

Beth yw dy hoff lyfr?

'Pretty, Pretty, Pretty Good : Larry David and the Making of Seinfeld and Curb Your Enthusiasm' gan Josh Levine.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Dwi wrth fy modd efo fy nhrainers Adidas Adistar Boost. Dwi'n rhedeg 5 milltir bob dydd ac felly mae fy esgidie rhedeg da yn hanfodol i mi.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

'Amy', y ffilm am fywyd Amy Winehouse. Hollol wych.

Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?

Does dim llawer o bobl yn edrych fel fi! Dwi ddim yn gwybod, ddweda' i Matt Damon.

Disgrifiad o’r llun,

Nid Matt Damon, ond Rhydian yn un o'i hoff siwtiau?

Dy hoff albwm?

'The Joshua Tree' gan U2

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydy dy ffefryn a beth fyddai'r dewis?

Pwdin, a Pecan Pie fydde'r dewis.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

George Clooney siŵr o fod.

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Matt Johnson