Annog darllenwyr i gymryd hunlun ar Ddiwrnod y Llyfr

  • Cyhoeddwyd
llyfrau

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn annog darllenwyr o bob oed i bostio hunlun gyda'u hoff lyfr ar wefannau cymdeithasol ddydd Iau i ddathlu Diwrnod y Llyfr.

Dywedodd Elwyn Jones, prif weithredwr y mudiad: "Ein bwriad yn syml yw annog plant, disgyblion ysgol, rhieni a phobl ledled Cymru i dynnu hunlun yn eu dangos yn darllen neu'n dal llyfr, ac i lwytho'r llun ar ffrwd Twitter Diwrnod y Llyfr.

"Wrth greu casgliad helaeth o hunluniau #hunlyfr gallwn ddangos i'r byd bod Cymry o bob oed am ddathlu darllen, a'u bod wrth eu bodd â llyfrau o bob math. Rhywbeth syml iawn i ddangos brwdfrydedd dros lyfrau."

Hefyd fe fydd taith ysgolion yn dechrau ar Ddiwrnod y Llyfr i ddathlu gwaith Roald Dahl.

Cwmni 'Mewn Cymeriad' fydd yn cyflwyno'r sioe 'Yr Awdur Mawr Mwyn' fydd yn ymweld ag ysgolion ar draws y wlad gan ddechrau yn Llandudno.

Bydd plant hefyd yn cael y cyfle i fynd i'r ysgol wedi'u gwisgo fel eu hoff gymeriad o lyfr.

Bu rhai o blant Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn dweud wrth Cymru Fyw am eu hoff lyfrau y byddan nhw'n eu cynnwys mewn hunlun.

Disgrifiad o’r llun,

(O'r chwith i'r dde) Lleucu, Annie, Isaac a Sion

Dywedodd Isaac sydd ym mlwyddyn 6 mai 'Swallows and Amazons' gan Arthur Ransome yw ei hoff

'Danny Pencampwr y Byd' gan Roald Dahl yw dewis Sion, sydd hefyd ym mlwyddyn 6. Dewisodd Anni nofel David Walliams, 'Gansta Granny' ac un o gyfres y Llewod yw hoff lyfr Lleucu - 'Y Llewod a'r Fodrwy Saffir'. lyfr.

Disgrifiad,

Lleucu yn son wrth Craig Duggan am ei apêl i gael gafael ar un llyfr arbennig

Mae Lleucu, sy'n saith oed, wedi darllen pob un o gyfres y Llewod heblaw am un o'r nofelau. Er gwaetha chwilio dyw hi ddim wedi llwyddo i gael hyd i'r 'Llewod a'r Diemwntau'.

"Wnaeth Mam a fi mynd ar y we a gwnes i edrych yn yr ysgol a gartref a wnaeth Mam holi'r Lolfa hefyd, ond sai'n credu fod y Lolfa yn gallu ffeindio fe," meddai Lleucu.

Ond ar Radio Cymru bore Iau daeth newyddion da i Lleucu.

Fe gysylltodd un o wrandawyr yr orsaf, Mair Davies o Gastellnewydd Emlyn, a Rhaglen Dylan Jones.

"Ma' gen i adre, oedd e yn fy llaw i yn gynharach, gopi cyfan o 'Llewod a'r Diemwntau' ges i e pan o ni yn blentyn," meddai.

Cafodd y llyfr ei gyhoeddi yn 1976.

"Dwi'n eithaf hapus iddi gael darllen y llyfr. Mae'r mab hynna wedi darllen y llyfr.

"Ond falle mewn 'chydig flynyddoedd bydd Rhys y mab ieuengaf am ei ddarllen.

"Ond fi'n eitha' hapus i bostio fe i Lleucu a pan fydd hi wedi ei orffen ei, gallith hi bostio fe nôl i ni, wy'n sicr."