Llun y llyfr: 10 o'r cloriau gorau

  • Cyhoeddwyd

Mae angen i gloriau llyfrau gyflawni sawl pwrpas. Gwerthu llyfr, denu darllenydd, cyfleu naws a bod yn gelfyddydol ddeniadol. Byddai rhai'n ei alw'n gelfyddyd ynddo'i hun, ond pa gloriau llyfrau Cymraeg sydd wedi ennill eu plwyf fel clasuron?

Ar Ddiwrnod y Llyfr mae Cymru Fyw wedi dethol deg clawr trawiadol neu eiconig o'r degawdau diwethaf.

Clawr eiconig i blant y 1980au gan yr artist Jac Jones. © Gwasg Dwyfor

Naws ramantaidd a chynnes sydd i'r clawr cyfoes hwn. © Y Lolfa

Minimol a chosmig yw'r clawr i'r wyddonias glasurol hon. © Gwasg Gomer

Celf Iwan Bala'n tynnu sylw at 'Cyw Haul'. © Y Lolfa

Sawl plentyn sydd ag atgofion melys o lygoden werdd Elwyn Ioan? © Y Lolfa

Cwrw a digrifwch yng nghlasur y Dyn Dwad. © Gwasg Carreg Gwalch

Seicedelia oedd y ffasiwn yn '72. © Gwasg Gomer

Mae clawr 'Y Dydd Olaf' yn sicr yn tynnu sylw.

Llinellau eglur a phalet syml sy'n gwneud y clawr hwn mor drawiadol. © Y Lolfa

Pwy all anghofio gwaith celf Rowena Wyn Jones, dylunydd gwreiddiol llyfrau Sali Mali? © Gwasg Gomer

Beth yw'r clawr sy'n aros yn eich cof chi? Gallwch gysylltu â ni ar cymrufyw@bbc.co.uk neu ar Trydar @BBCCymruFyw, dolen allanol neu ar ein tudalen Facebook, dolen allanol.

Gallwch bori drwy filoedd o gloriau llyfrau Cymraeg ar y prosiect Gwales ar Wicipedia, dolen allanol.