Ateb y Galw: Sarra Elgan
- Cyhoeddwyd

Y gyflwynwraig Sarra Elgan sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan Mike Phillips.
Beth ydy dy atgof cyntaf?
Cystadlu yn Eisteddfod Capeli Brynaman pan o'n i'n dair oed.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Dwi wedi cael sawl un… Anghofio geiriau mewn gwasanaeth ysgol pan yn y chweched dosbarth a chyflwyno Daniel Bedingfield fel Daniel Bedington ar 'Top of the Pops' ar BBC One.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Dwi'n berson eitha' emosiynol - siwr mai wrth wylio film Disney gyda'r plant!!!!!

Daeth Sarra i amlygrwydd fel un o gyflwynwyr 'Planed Plant'
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Pigo nail varnish bant o fy ngwinedd!
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Mynydd Du - atgofion hyfryd o'm plentyndod.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Noson ein priodas.
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Sensitif, emosiynol a ffyddlon.
Beth yw dy hoff lyfr?
Unrhyw hunangofiant.
Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?
Fy nghot dwym 'Para Jumpers' sy'n cadw fi'n gynnes wrth ochr y cae. Hefyd pâr o esgidiau Christian Louboutin na'th Simon a'r plant brynu i mi Nadolig diwetha' - fyddai ddim yn gwisgo rheiny ar gae rygbi!

Simon Easterby, gŵr Sarra, newydd gael clywed faint yw pris sgidie' Christian Louboutin. Ar ôl serennu i'r Scarlets, mae e bellach yn hyfforddi blaenwyr carfan Iwerddon
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?
'Hotel Transylvania 2' (gyda'r plant!).
Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?
Cameron Diaz - achos ma' hi'n 'neud comedi yn dda!!
Dy hoff albwm?
'25' gan Adele.

Mae Sarra i'w gweld yn rheolaidd yn cadw trefn ar Jonathan a Nigel
Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydy dy ffefryn a beth fyddai'r dewis?
Prif gwrs - Stecen a sglodion
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai o/hi?
Neb - dwi mwy na hapus gyda mywyd i!
Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Lucy Owen