Adroddiad yn awgrymu diwygio'r dull o ariannu cynghorau

  • Cyhoeddwyd
Cynghorau

Mae comisiwn annibynnol ar gyfer diwygio trefn ariannol cynghorau Cymru wedi awgrymu nad oes modd parhau gyda'r broses gyllido bresennol.

Mae adroddiad y Comisiwn Annibynnol dros Faterion Ariannol Llywodraeth Leol Cymru wedi cyflwyno argymhellion ar gyfer diwygio trefn ariannu awdurdodau lleol.

Dywed adolygiad bod angen "diweddaru trefniadau ariannu fel y byddan nhw'n gweddu i wasanaethau cyhoeddus mwyfwy datganoledig, yn ogystal ag ateb her y llymder parhaus yn y sector cyhoeddus".

Mae'r adroddiad, Uchelgais dros Newid: Anelu'n Uwch, yn gwneud nifer o argymhellion i wella'r hyn y mae'n ei alw'n "gymhlethdod ariannol llywodraeth leol", er mwyn "cryfhau economi ehangach Cymru".

Er ei fod yn dweud nad yw'r drefn ariannol bresennol wedi methu yn llwyr eto, mae'n dweud na fydd modd parhau â'r drefn honno ac y byddai rhai gwelliannau ariannol ymarferol o fudd i'r cynghorau lleol, Llywodraeth Cymru a'r cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu.

Argymhellion

Mae'r Comisiwn yn argymell:

  • Gadael i gynghorau godi llawer mwy o'u hincwm trwy drethi lleol fel rhan o ddiwygio ehangach;

  • Cwtogi ar nifer, graddfa ac ehangder grantiau penodol er effeithlonrwydd trwy eu cynnwys yn y dyraniad cyffredinol, Grant Cynnal y Cyllid;

  • Trosglwyddo trethi busnes o reolaeth wladol i'r cynghorau lleol;

  • Sefydlu corff ariannol annibynnol fyddai'n debyg i Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol San Steffan i roi cymorth ariannol a chyflawni gwaith craffu ym mhob rhan o sector cyhoeddus Cymru;

  • Llunio fformiwla ariannu newydd y byddai modd ei ddefnyddio yn sgil ad-drefnu maes llywodraeth leol;

  • Sefydlu comisiwn fyddai'n adolygu'r defnydd o grantiau yn sector cyhoeddus y wlad;

  • Gadael i bob cyngor lleol bennu'r taliadau sydd i'w codi am wasanaethau, fel y bydd modd casglu cymaint o incwm ag y bo modd a bod yn fwy atebol i'r trigolion trwy esbonio sut mae'r incwm wedi'i fuddsoddi wedyn.

'Ffordd flaengar unigryw'

Dywedodd yr Athro Tony Travers, Cadeirydd y Comisiwn Annibynnol dros Faterion Ariannol Llywodraeth Leol Cymru: "Mae'r argymhellion sydd wedi'u cyflwyno yn yr adroddiad gan ein harbenigwyr yn cynnig ffordd flaengar unigryw i Gymru o ran sut y dylid ariannu gwasanaethau cyhoeddus lleol.

"Er nad yw'n fethiant llwyr, mae trefn ariannu'r cynghorau lleol ar waith ers oes 'Cymru a Lloegr' cyn dechrau'r datganoli llwyddiannus iawn a pharhaus sy'n mynd rhagddo bellach. Felly, mae gwir angen cynnal gwasanaethau cyhoeddus mwyfwy datganoledig y wlad trwy drefn ariannol gyfoes a fydd yn addas i'w diben.

"Mae aelodau'r comisiwn o'r farn y bydd ein hargymhellion yn 'Uchelgais dros Newid: Anelu'n Uwch' yn cryfhau atebolrwydd lleol, yn hwyluso rhagor o hyblygrwydd ac arloesi ariannol, yn cwtogi yn fawr ar ddibyniaeth y cynghorau lleol ar Lywodraeth Cymru ac yn eu galluogi i ysgwyddo rôl fwy uniongyrchol yn nhwf economaidd eu bröydd a'u rhanbarthau.

"O'u rhoi ar waith, fe fydd yr argymhellion hyn o fudd mawr i gynghorau lleol, Llywodraeth Cymru, cymunedau a gwasanaethau cyhoeddus."

Mae Sefydliad Breiniol Arian a Chyfrifeg y Wladwriaeth (CIPFA) wedi cynorthwyo a chynghori'r comisiwn.

Dywedodd Chris Tidswell, un o aelodau'r comisiwn a phennaeth CIPFA Cymru: "Mae CIPFA yn croesawu cyfraniad y comisiwn ynglŷn ag ystyried sut mae ariannu cynghorau lleol Cymru.

"Mae cyfle i lywodraeth y wlad bwyso a mesur ei argymhellion bellach a gofalu bod gan bob cyngor lleol yr hyblygrwydd a'r dewisiadau i gynnig gwasanaethau i bobl ei ardal trwy drefn ariannol annibynnol sy'n gweddu i anghenion a chyfleoedd lleol.

"Mae CIPFA o'r farn ei bod yn bryd newid, a byddai'n drueni mawr pe bai llywodraeth y wlad yn methu â rhoi pob ystyriaeth i'r argymhellion hyn."