Hawl i chwifio'r Ddraig Goch

  • Cyhoeddwyd
EurovisionFfynhonnell y llun, Eurovision

Mae trefnwyr cystadleuaeth yr Eurovision wedi gwneud tro pedol gan ddweud y bydd pobl yn cael chwifio baneri rhanbarthol yn y gystadleuaeth eleni - yn cynnwys y Ddraig Goch.

Doedd gan gefnogwyr y canwr o Ruthun, Joe Woolford, sy'n rhan o ddeuawd yn cynrychioli Prydain yng nghystadleuaeth yr Eurovision yn Sweden, ddim hawl i chwifio baner Cymru yn yr arena yn wreiddiol.

Ond mae'r trefnwyr wedi gwneud tro pedol, ac fe fydd gan faneri rhanbarthol yr hawl i gael eu cynnwys.

Yn ôl Eurovision, roedd rhai baneri wedi eu gwahardd yn wreiddiol er mwyn "sicrhau nad oes negeseuon gwleidyddol yn cael eu cyfleu".

Dywedodd lefarydd ar ran y gystadleuaeth: "Ar ôl adlewyrchu ac ar ôl trafodaethau gyda sawl dirprwyaeth o wahanol wledydd sy'n cystadlu, mae'r trefnwyr wedi penderfynu ymlacio rheolau ar faneri, ac i ganiatáu baneri cenedlaethol, rhanbarthol a lleol y rhai sy'n cymryd rhan e.e. baner Cymru...".

"Mae hynny yn ychwanegol i faneri gwledydd y Cenhedloedd Unedig, baner yr Undeb Ewropeaidd a Baner yr Enfys."

banner

.