Menter newydd Radio Cymru

  • Cyhoeddwyd
Betsan Powys
Disgrifiad o’r llun,

Betsan Powys - golygydd BBC Radio Cymru

Mae BBC Cymru wedi cyhoeddi enwau'r lleisiau fydd ar donfeddi BBC Radio Cymru Mwy, pan fydd y gwasanaeth newydd yn dechrau ddydd Llun 19 Medi.

Gorsaf dros dro yw Radio Cymru Mwy, sy'n rhan o gyfres o ddatblygiadau digidol gan BBC Radio Cymru ar drothwy ei phen-blwydd yn 40 oed.

A dros gyfnod o 15 wythnos yn ystod bore'r wythnos waith, bydd pwyslais ar "fwy o gerddoriaeth a mwy o hwyl".

Betsan Powys, golygydd yr orsaf, sy'n esbonio beth sydd ar droed:

line

Rhywbeth i bawb?

Yn oes yr arth a'r blaidd, neu felly mae'n teimlo erbyn hyn, roedd 'na deledu ac roedd 'na radio. Roedd y naill yn y gornel, y llall ar silff y gegin, neu ar bwys y gwely. Ro'n ni'n gwylio'r naill, yn gwrando ar y llall.

Erbyn hyn, dwi'n teimlo fel tasen i'n dysgu am 'blatfform darlledu' newydd bob mis - gan 'y mhlant - a dwi'n gwrando ar bodlediadau dramâu ar y ffôn ac yn gwylio rwbeth lliwgar bob dydd ar wefan Radio Cymru. Mae 'na dwf yn y nifer sy'n lawrlwytho rhaglenni a chlipie i wrando pan yw hi'n gyfleus iddyn nhw, nid pan maen nhw 'ar y radio' ac yn gyfleus i ni.

Mae'r cyfnod o greu rhaglenni i'w darlledu ar amser penodol sy'n siwtio amserlen daclus yn prysur ddiflannu. Mae'r byd digidol yn lle gwahanol iawn.

Mae'n bosib gwrando ar glipiau o sgyrsiau ar wefan Radio Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bosib gwrando ar raglenni a chlipiau ar wefan Radio Cymru

Dyna pam mae holl wasanaethau Cymraeg BBC Cymru yn edrych yn wahanol iawn heddiw i'r hyn oedd gennym gwta bum mlynedd yn ôl. Mae hi'n llawer haws dod o hyd iddyn nhw, i ddechrau. Cymerwch ap newyddion y BBC, sy'n gadael i'r defnyddiwr blethu straeon Cymraeg a Saesneg yn un llif. Y ddwy iaith yn gymysg oll. Mae'r iPlayer yr un modd.

Ac alla'i ddim peidio sôn am Cymru Fyw, sydd wedi trawsnewid ein gwasanaeth Cymraeg arlein.

Ac mae'n bwysig fod Radio Cymru yn manteisio ar y newid sydd ar droed. Yn arbrofi, arloesi, trio deall be sy'n bosib; yn treialu, peilota a herio'r terfynau.

A thros y misoedd diwetha', ry'n ni wedi bod yn dawel edrych ar yr hyn sydd yn bosibl. Wrth i Radio Cymru baratoi i ddathlu ei phenblwydd yn 40 flwyddyn nesa' (oes Hywel a Sulwyn, os nad yr arth a'r blaidd!) siawns nad oes 'na gyfle i drio rhywbeth gwahanol.

Mae 'na gynnydd yn nifer y bobl sy'n gwrando ar Radio Cymru trwy ddyfeisiadau symudol
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na gynnydd yn nifer y bobl sy'n gwrando ar Radio Cymru trwy ddyfeisiadau symudol

Arloesi

Rhywbeth arloesol sy'n g'neud yn fawr o'r amryw lwyfannau darlledu sydd ar gael erbyn hyn; arbrawf dros dro - dim mwy, dim llai, lle gallwn ni gynnig dewis o gynnwys a cherddoriaeth i chi, dewis o sŵn, rhoi cyfle i fwy o leisiau newydd sbon, bod yn un gwasanaeth cenedlaethol sy'n cynnig dau ddewis i chi.

Yn yr hydref, y bwriad yw cynnig gorsaf dros-dro, dau ddewis i chi bob bore o ddydd Llun i ddydd Gwener. Fe gewch chi Radio Cymru fel mae hi, ac fe fydd 'na ail ddewis arlein, ar wefan Radio Cymru, ac ar yr iPlayer Radio hefyd - drwy Gymru gyfan.

Mae'r dechnoleg yn y de ddwyrain ar hyn o bryd hefyd yn caniatáu i ni arbrofi gyda chynnig dewis ar radio DAB (radio digidol) yn yr ardal honno.

Arbrawf tri mis fydd hwn - i chi fwynhau, i ni ddysgu a thrio pethau technegol, clyfar, heb ddieithrio gwrandawyr ffyddlon, cwbl hanfodol Radio Cymru.

Wedi hynny, fe wnewn ni ystyried y camau nesaf yng ngoleuni'r peilot, datblygiadau technolegol a realiti ariannol BBC Cymru. Wrth gwrs, os nad oes owns o ddiddoreb gyda chi mewn arloesi, arbrofi nac unrhyw 'a' arall, fydd dim ishe i chi wneud dim byd ond dal ati i wrando ar Radio Cymru.

Ond pe bae'n well gyda'ch teulu chi ysgafnder a cherddoriaeth dros frecwast yn hytrach na newyddion diweddaraf Y Post Cyntaf, wel, yn yr hydref, fe fydd Radio Cymru'n cynnig dewis i chi. Os nad yw dewis cerddorol Bore Cothi yn siwtio, wel, trowch y botwm, a gwneud dewis arall - yn Gymraeg.

Un gwasanaeth cenedlaethol gyda mwy nag un dewis.

Beth arall sydd ar y gweill?

  • Gweithio ar gynlluniau i greu gofod newydd sy'n cynnig deunydd Cymraeg i gynulleidfa C2

  • Sefydlu partneriaethau newydd sy'n adeiladu ar daith ysgolion Radio Cymru

  • Arbrofi gyda'r Sesiynau Unnos - gwyliwch rai o'r datblygiadau newydd nos Iau yma - a rhannu'r syniad gyda gorsaf Wyddeleg

  • Cydweithio â chriw Cyw S4C i annog gwrandawyr ifanc i greu cymeriad newydd i serennu yn Stori Tic Toc ar nos Sul

A phan ddaw Ionawr 2017, fe allwn ni ddathlu penblwydd Radio Cymru yn 40 drwy edrych nôl, wrth gwrs, a dathlu talentau a theyrngarwch y gorffennol.

Ond fe fyddwn ni'n troi'n 40 gyda'r hyder ein bod ni'n orsaf sy'n awyddus i edrych ymlaen hefyd - yn un gwasanaeth cenedlaethol sy'n chwilio'n galed am ffyrdd o greu mwy nac un sŵn, i fwy nac un gynulleidfa.

Radio
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r diwydiant darlledu wedi newid llawer mewn 40 mlynedd - ond mae BBC Radio Cymru yma o hyd