Ymchwil cyffuriau cyfreithlon yn 'sail' i bolisïau
- Cyhoeddwyd
Gall ymchwil newydd i effeithiau cyffuriau cyfreithlon, neu legal highs, fod yn sail i bolisïau a phrosiectau yn y dyfodol, yn ôl y trefnwyr.
Mae cyffuriau cyfreithlon yn cynnwys o leiaf un cemegyn sy'n cael yr un effaith a sylweddau anghyfreithlon fel cocên ac ecstasi.
Y pryder yw bod mwy o bobl yn eu defnyddio, ond nad oes tystiolaeth o'u heffeithiau tymor hir ar iechyd defnyddwyr.
Ond mae'r rhai y tu ôl i'r ymchwil wedi dweud wrth raglen y Post Cyntaf ar Radio Cymru y gallai'r wybodaeth newydd newid hynny.
'Pobl wedi eu dallu'
Mae defnydd cyffuriau cyfreithlon wedi ei gysylltu gydag iselder, gorbryder a straen ar y galon a'r system nerfol.
Nid oes gwybodaeth gadarn chwaith ynglŷn ag oedran a statws cymdeithasol defnyddwyr, ond oherwydd bod y cyffuriau yma'n rhad, y pryder yw eu bod yn haws i bobl ifanc eu prynu.
Dylan Evans yw un o'r rhai y tu ôl i'r cynllun, sy'n cael ei redeg gan elusen Cais, Cyngor Sir Ddinbych ac elusen Hafal, ac mae'n dweud bod gwir angen am wybodaeth.
"Be' de ni yn 'wbod ydi bod ni'n gwbod dim am yr effaith, ma'n wahanol bob tro, dyna di'r pwynt, ma' nhw'n cal eu profi ar yr unigolyn," meddai.
"Os oes rhywun yn mynd allan am beint, da chi'n gwbo' mwy neu lai be' sy'n mynd i ddigwydd.
"Hefo 'hein, ma' na achosion lle ma' pobl wedi cael eu dallu neu di cael ffitiau, yn hollol annisgwyl, a dyna di'r broblem fwya'."
Bydd yr ymchwil yn digwydd dros y flwyddyn nesaf, a bydd swyddogion y cynllun yn ymweld ag ysgolion, meddygfeydd a chanolfannau hamdden.
Y gobaith yw y bydd y cynllun yn rhoi gwybodaeth am effeithiau'r sylweddau yma ar ddefnyddwyr, a hefyd yn arwain at wella gwasanaethau sydd ar gael i rai sydd am roi'r gorau i'w defnyddio.
Dywedodd Dylan Evans: "'Da ni'n defnyddio'r evidence yma da ni'n casglu i ddatblygu polisi sydd wedyn yn mynd i fynd dros Gymru."