Ymchwilio i rêf anghyfreithlon yng Ngheredigion

  • Cyhoeddwyd
Llanddewi Brefi
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y digwyddiad ei gynnal ger Llanddewi Brefi yn ystod Gŵyl y Banc

Mae'r heddlu yn ymchwilio wedi i rêf anghyfreithlon gael ei gynnal ger Llanddewi Brefi yng Ngheredigion yn ystod Gŵyl y Banc.

Mae'n debyg fod hyd at 2,000 o bobl yn y digwyddiad dros dri diwrnod.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys bod sawl un wedi cael eu harestio am droseddau yn ymwneud â chyffuriau.

Mae cynghorwyr a phobl leol wedi galw am weithredu i sicrhau nad oes mwy o'r digwyddiadau'n cael eu cynnal.

Roedd y trefnwyr wedi rhannu lleoliad y digwyddiad trwy decst ac e-bost, yn hytrach na chyfryngau cymdeithasol.

Dawns anghyfreithlon

Dywedodd yr heddlu eu bod wedi cael eu gwneud yn ymwybodol o'r digwyddiad yn hwyr nos Sadwrn, ond am ei fod "ar raddfa fawr" yn barod cafodd y penderfyniad ei wneud i beidio rhoi stop ar y ddawns.

Yn hytrach, fe wnaeth swyddogion aros ar y safle i sicrhau na allai mwy o bobl fynychu'r digwyddiad.

Dywedodd y cynghorydd lleol, Rhodri Evans: "Rydw i wedi cael pobl yn mynegi eu pryder - pobl yn gyrru trwy'r pentref ar gyflymder uchel ac o bosib yn rhoi pobl mewn perygl."

Ychwanegodd bod yr ardal yn lle "distaw a heddychlon" a bod pobl leol eisiau sicrhau nad oes mwy o'r fath ddigwyddiadau'n cael eu cynnal.

Rhodri Evans
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans bod pobl leol yn bryderus am fwy o'r fath ddigwyddiadau