Alun Cairns yn cyhoeddi Mesur Cymru ar ei newydd wedd
- Cyhoeddwyd
Mae'r cynlluniau ar gyfer camau nesa' datganoli wedi cael eu "hailwampio", yn ôl Ysgrifennydd Cymru.
Mae Alun Cairns wedi cyhoeddi Mesur Cymru ar ei newydd wedd yn San Steffan ac mae'n mynnu bydd yn rhoi diwedd ar y dadleuon sydd "wedi dyddio".
Mae disgwyl i'r ddeddfwriaeth roi rheolaeth dros ffracio a chyfyngiadau cyflymder i'r Cynulliad, ymysg pethau eraill.
Mae lle i gredu hefyd y bydd yn diddymu'r angen i Lywodraeth Cymru alw refferendwm cyn cael rheolaeth o rai pwerau treth incwm.
Achosodd fersiwn ddrafft o'r mesur ffrae fawr, gyda rhai yn cyhuddo Llywodraeth San Steffan o geisio cymryd pwerau'n ôl o Fae Caerdydd.
Aeth Ysgrifennydd Cymru ar y pryd, Stephen Crabb, ymlaen i addo newidiadau sylweddol i'r ddeddfwriaeth arfaethedig.
Dywedodd Mr Cairns wrth BBC Cymru fod Llywodraeth Cymru'n "cytuno'n gyffredinol gyda hanfodion" y Mesur.
"Rydym am drafod rhai o agweddau ymylol y mesur ond rwy'n obeithiol y gallwn oresgyn y rhain", meddai.
Ychwanegodd fod llywodraethau Prydain a Chymru "am gael yr un pethau, rydym am i Lywodraeth Cymru fod yn atebol am y penderfyniadau mae'n ei wneud, ond hefyd rydym am i bobl ddeall beth sydd wedi ei ddatganoli a beth sydd heb ei ddatganoli".
Pan ofynnwyd iddo a oedd unrhyw ffordd y gallai Llywodraeth Prydain rwystro dymuniadau gweinidogion Llywodraeth Cymru ar ddeddfwriaethu, dywedodd: "Dim o gwbl."
"Rydym yn gofyn i'r Cynulliad i ystyried oblygiadau unrhyw ddeddf mae'n ei basio ond mae pob sefydliad aeddfed yn gwneud hynny."
Ymgais i ailwampio'r modd mae Cymru'n cael ei llywodraethu yw Mesur Cymru, gan ddiffinio'n union beth sydd dan reolaeth San Steffan, fel rhan o fodel o gadw pwerau'n ôl.
Mae'n wahanol i'r system bresennol, sy'n amlinellu'r hyn sydd dan reolaeth y Cynulliad, gyda'r dybiaeth fod popeth arall dan ofal Llywodraeth y DU.
Cafodd y ddeddfwriaeth newydd ei chyhoeddi'n wreiddiol yn Araith y Frenhines ym mis Mai 2015, ond roedd y fersiwn ddrafft a gafodd ei chyhoeddi fis Hydref wedi denu beirniadaeth y gallai arwain at lai o bwerau i Fae Caerdydd.
'Llawer o gynnydd'
Wrth siarad am y newidiadau i Fesur Cymru, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones wrth BBC Cymru fod yna "lawer o gynnydd wedi'i wneud" ond bod "angen mwy o waith ar rai agweddau".
"Roedd gan yr hen fesur y syniad od yma fod angen i lawer o'r hyn roedden ni'n gwneud, gael sêl bendith San Steffan. Roedd pobl Cymru wedi gwrthod hynny mewn refferendwm yn 2011.
"Mae 'na rai materion fel plismona, ble rydyn ni'n credu, fel Yr Alban, Gogledd Iwerddon neu Fanceinion petai'n dod i hynny, y dylai Cymru gael rheoli plismona. Mae Llywodraeth San Steffan yn credu y dylai hynny aros yn Llundain."
Mae Mr Jones hefyd yn derbyn fod anghytuno rhwng llywodraeth Cymru a llywodraeth y DU ynglŷn â materion fel plismona a chyfiawnder troseddol.