Pwy yw'r dadi?
- Cyhoeddwyd
Sul y Tadau - dyma gyfle i ddarllenwyr Cymru Fyw 'nabod rhai o dadau enwog Cymru. 'Dych chi'n gwybod pwy yw plant adnabyddus y dadis, a phwy yw dadis adnabyddus y plant?
Dyma'r cyntaf, ac mae mab enwog y dyn yma yn gweithio dramor ar hyn o bryd, er dyw'r cyn-ddisgybl o Ysgol y Preseli ddim yn bwriadu dod adref am dipyn!
Mae gan Hanna, sy'n actores ei hun, gyfenw enwog iawn. Mae pobl yn aml yn cyfeirio at ei chanwr o dad gan ddefnyddio ei gyfenw'n unig.
Mae 'na wên braf ar wyneb Dafydd fel sydd yna ar wyneb ei ferch, a hynny er bod rhai o'i disgyblion iaith yn rhoi cur pen iddi hi ar adegau!
Dyma Telor yn dal Bafta Cymru am ei gyfraniad i raglen newyddion adnabyddus, ond mae ei dad wedi bod ar y newyddion ar nifer o achlysuron am nifer o wahanol resymau.
Nawr, dyma Gwilym. Mae 'na sôn ei fod e'n cerdded yn bell i glywed ei fab enwog yn canu.
Mae'n siwr fod Osian, Lois a Tristan yn help mawr i'w tad... yn arbennig i'w godi o'r gwely'n gynnar, fel sydd ei angen y dyddiau 'ma!
Pwy yw tad siaradus Osian, Lois a Tristan? Pwyswch yma am yr ateb.
Dyma Huw, mae ei gyw bach ef wedi hedfan y nyth...
Mae tad Jac yn lais cyfarwydd i filoedd o Gymry Cymraeg a di-Gymraeg, ac yn wyneb cyfarwydd hefyd os ydych chi'n hoffi chwaraeon. Pwynt ychwanegol os allwch chi enwi'r taid hefyd?
Dyma Norman, sydd yn hynod falch o'i fab meddygol sydd wedi profi llwyddiant ac enwogrwydd mewn maes arall hefyd.
Cerwyn yw hwn, ac mae'n dad i wyneb cyfarwydd iawn i wylwyr S4C. Mae ei ferch ar y sgrin boed law neu hindda.