Ateb y Galw: Rhys Mwyn
- Cyhoeddwyd
Y cerddor a'r cyflwynydd Rhys Mwyn sy'n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw yr wythnos hon wedi iddo gael ei enwebu gan yr awdur Mike Parker.
Beth ydy dy atgof cyntaf?
Dawnsio o gwmpas y tŷ i 'Lilly the Pink' gan Y Scaffold, band oedd yn cynnwys Mike McGear (sef brawd Paul McCartney). Cofio'r gân yna a 'Yellow Submarine' am ryw reswm.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Roeddwn o hyd yn meddwl mai Billy Idol (Generation X) oedd yr hogyn mwyf golygus erioed pan ddechreuodd Punk, a Viv Albertine o'r Slits fel y ferch berffaith (tan i mi weithio hefo hi).
Drwy'r ysgol uwchradd y gwir amdani, y ferch o'n i'n ffansio oedd Sian James, y gantores werin bellach, a oedd yn yr un dosbarth â fi.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Gorfod gwisgo sbectols yn yr ysgol gynradd a'r plant arall (fel mae plant) yn chwerthin. Gwirion dwi'n gwybod ond ond mi oedd o'n beth mawr ar y pryd.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Yn ddiweddar iawn fe alwais heibio'r fynwent goffa yn Aberfan ar y ffordd adre o Gaerdydd a roedd gweld beddau'r 116 o blant agafodd eu colli yn 1966, rhai yn frodyr a chwiorydd, yn drech ar rywun. Roeddwn yn beichio crio.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Mi fydda' Nest fy ngwraig yn dweud gadael goleuadau ymlaen yn y tŷ ar ôl mynd allan.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Os oes rhaid dewis un lle, mae'n debyg mai Barclodiad y Gawres, y feddrod Neolithig ger Aberffraw gyda'r meini gyda celf Neolithig arnyn nhw. Yn dyddio o 2500 cyn Crist dyma un o'r henebion pwysicaf sydd ganddon ni yng Nghymru yn dangos cysylltiad gyda Iwerddon o ran y dull adeiladu a'r gelfyddyd.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Mae gweld 'The Clash' yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy ar y '16 Tons Tour' yn gorfod bod yn un sydd yn aros yn y cof. Jest cael cyfle i weld 'The Clash' fel hogyn ifanc 17 oed.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Dal i gredu.
Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?
Dwi bob amser yn gwisgo crys T du o dan fy nghrys, felly dwi angen cyflenwad o grysau T du.
Beth yw dy hoff lyfr?
'A Wandering Scholar: The Life and Opinions of Robert Roberts'.
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?
'The Revenant' efo Leonardo DiCaprio.
Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?
Gorfod bod yn Dustin Hoffman - dwi ddim yn berson arferol, a dwi ddim yn cydymffurfio - dwi'n siŵr byddai Dustin yn iawn unwaith iddo feistrioli'r Gymraeg.
Dy hoff albwm?
'Colossal Youth' (1980 ar Rough Trade) gan Young Marble Giants o Gaerdydd - yr un mor bwerus â 'Never Mind The Bollocks' y Sex Pistols ond heb y sŵn.
Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydy dy ffefryn a beth fyddai'r dewis?
Unrhywbeth heb glwten - anodd curo omelette ar gyfer llysieuwyr.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Mi fyddwn wrth fy modd yn cael mynd yn ôl mewn amser i fod yn un o drigolion Din Lligwy ar Ynys Môn yn y cyfnod Rhufeinig - er mwyn cael gweld sut oedd bywyd dydd i ddydd yno.