Tafwyl: O'r dafarn i'r castell
- Cyhoeddwyd
Mae Gŵyl Tafwyl, dolen allanol bellach yn ddyddiad pwysig yn nyddiadur Cymry Cymraeg a di-Gymraeg Caerdydd a thu hwnt.
Anodd credu felly taw dim ond ers degawd mae hi wedi bodoli.
Felly sut tyfodd syniad o ŵyl Gymraeg i'r teulu yn nhafarn ym Mhontcanna, i fod yn ŵyl dau ddiwrnod gynhwysfawr yng Nghastell Caerdydd?
Roedd Siân Lewis, Prif Weithredwr Menter Caerdydd, yna o'r cychwyn:
Yn y dechreuad...
Cododd y syniad yn wreiddiol mewn cyfarfod o Mentrau Iaith Cymru. Roedd Menter Iaith Conwy wrthi'n trefnu Gŵyl Llanw Llanrwst oedd yn ŵyl gymunedol i'r teulu a meddyliais y byddai'n syniad da trefnu gŵyl debyg yng Nghaerdydd er mwyn codi proffil y Gymraeg yn y ddinas.
Yn weddol fuan, aethon ni ati i drefnu cyfarfod cyhoeddus er mwyn gweld faint o ddiddordeb fyddai 'na i ŵyl o'r fath ymysg pobl Cymraeg Caerdydd a'n partneriaid o fudiadau eraill yn y brifddinas.
Fe ddaeth tua 100 o bobl i'r cyfarfod cyntaf 'na, oedd yn ymateb da ac yn arwydd fod awydd rhywbeth yng nghanol y brifddinas fyddai'n codi proffil ac yn dathlu'r Gymraeg.
Gyda'r syniad o ŵyl wedi ei dderbyn gan y gymuned yn y cyfarfod, y broblem gyntaf oedd dod o hyd i leoliad addas. Mewn byd delfrydol, rhyw fath o glwb rygbi fyddai wedi bod yn berffaith, lleoliad dan do gyda neuadd fach a bar ac adnoddau gwneud bwyd, ond hefyd digon o dir o gwmpas i gynnal digwyddiadau allanol.
Lleoliad...lleoliad...lleoliad
Yn anffodus, nid oedd unman yn ffitio'r disgrifiad oedd mewn lleoliad canolog. Doedden ni ddim eisiau ei gynnal mewn ysgol gan fy mod i'n awyddus i dorri'r syniad fod y Gymraeg yn iaith ar gyfer addysg yn unig.
Felly dyma droi at leoliad oedd yn amlwg ym mywyd cymdeithasol Cymraeg pobl Caerdydd ar y pryd. Roedd tafarn y Mochyn Du yng nghanol y ddinas, ac o fewn cyrraedd ardal o Gaerdydd sydd â chanran uchel o Gymry sydd â theuluoedd.
Roedd perchennog y Mochyn Du yn gefnogol iawn i'r syniad ac felly cawsom y cyfle i ddefnyddio'r dafarn a maes parcio'r dafarn i gynnal Tafwyl 1.
Mae'n bwysig cofio, yn wreiddiol, roedd yr ŵyl yn gasgliad o ddigwyddiadau yn para dros wythnos. Pwrpas hyn oedd creu digwyddiadau i ddenu pob math o ddiddordebau ac yn wir roedd teithiau hanes, nosweithiau i ddysgwyr, gigs ieuenctid, sesiynau Cyw, cwis tafarn, nosweithiau comedi pob math o ddigwyddiadau yn apelio at gymaint o bobl ag oedd yn bosib.
Roedd y ffair fel oeddwn yn ei alw ar y pryd, yn binacl i'r ŵyl a'r syniad oedd denu pawb at ei gilydd i ddathlu diwedd yr wythnos o weithgareddau. Y targed ar gyfer y 'Ffair Tafwyl' gyntaf oedd denu 1,000 o bobl.
Roedd hi'n fwriad denu ysgolion, er mwyn annog rhieni i ddod â'u plant, achos ô'n ni'n gwybod os fyddai ysgol yn perfformio, fyddai cwpwl o gannoedd o rieni'n dod hefyd. Yn y cychwyn, bydden ni'n gwahodd cwpwl o ysgolion i berfformio, un côr oedolion ac un band a dyna oedd 'lein up' Tafwyl.
Yn raddol fe aeth hi'n fwy, gyda mwy o ysgolion a chorau yn perfformio. Erbyn hynny roedd yr ŵyl yn denu dros 2,500 o bobl a'r broblem newydd oedd nad oedd 'na safle addas i'w chynnal yng nghanol y ddinas.
Cadarnle'r Ŵyl
Wedi ychydig o drafod gyda Chyngor Caerdydd, ddaeth y cynnig i ddefnyddio'r castell yn rhad ac am ddim a chael Tafwyl i ymddangos yng nghalendr digwyddiadau swyddogol y Cyngor.
Roedd un broblem. Roedd symud i'r castell yn codi'r ŵyl i lefel gwbl wahanol, o ran maint a phwysigrwydd. Roedd Menter Caerdydd ar y pryd, ac yn wir yn dal i fod, yn fenter gymunedol eithaf bach.
Yn y Mochyn Du, roedd pawb o'r staff yn medru helpu drwy drefnu un rhan o'r ŵyl, ond y peth cyntaf oedd yn rhaid ei wneud wrth symud i'r castell oedd penodi swyddog fyddai â chyfrifoldeb llawn amser am drefnu'r ŵyl.
Roedd y Tafwyl cyntaf wedi costio tua £2,500. Erbyn hyn, mae Tafwyl yn costio £150,000 ac felly mae angen ymdrech fawr i gyd-lynu'r holl fudiadau, unigolion, perfformwyr, darparwyr bwyd a diod a'r holl ffactorau eraill sydd yn gwneud gŵyl lwyddiannus.
Yn ychwanegol, mae'n rhaid sicrhau'r cyllid. Mae'r arian i gynnal Tafwyl yn dod o grantiau gan fudiadau megis Llywodraeth Cymru, Cyngor y Celfyddydau, ac amrywiaeth o ffynonellau eraill gan gynnwys nawdd y sector breifat.
Mae llawer o'n hamser trefnu felly yn mynd yn llenwi ceisiadau am gyllid!
Y dyfodol?
Ers symud i'r castell, mae'r ŵyl wedi datblygu'n sylweddol o ran maint a statws. Mae hefyd wedi datblygu o ŵyl un diwrnod i ŵyl dau ddiwrnod (gyda digwyddiadau ffrinj yn cael eu cynnal yn y ddyddiau yn arwain at Tafwyl).
Mae pob adnodd posib yn cael ei ddefnyddio i'r eithaf er mwyn sicrhau fod yr ŵyl yn gweld golau dydd. Mae'r sefyllfa ariannol bresennol hefyd yn golygu na fydd yr ŵyl yn gallu dibynnu gofyn am fwy o gyllid yn ddi-ddiwedd, felly esblygu'r gweithgareddau sydd yn digwydd o fewn yr ŵyl fydd yr unig newidiadau alla'i ragweld yn y dyfodol agos.
Y prif nod, yw parhau i fod yn ŵyl am ddim. Mae hyn yn hollbwysig, ac wedi bod yn gonglfaen yr ŵyl ers y cychwyn.
Pwrpas Tafwyl yw hyrwyddo a chodi proffil y Gymraeg. Felly mae'n hanfodol fod pobl y ddinas, boed nhw'n Gymry neu beidio, yn medru rhannu'r ŵyl a chael cyfle i weld yr holl amrywiaeth o weithgareddau sydd ar gael yn y Gymraeg. Mae'n bwysig adlewyrchu fod y Gymraeg ar gyfer plant, pobl ifanc a phobl hŷn a'i bod hi'n iaith ddeinamig, fyw.
Llynedd ddaeth 35,000 trwy'r drysau dros y ddau ddiwrnod. Fydden ni ddim wedi breuddwydio am lwyddiant tebyg pan ddechreuon ni yn y Mochyn Du ddeng mlynedd yn ôl.
Bydd 42 o fandiau'n chwarae a 300 o wahanol ddigwyddiadau yn digwydd yn ystod Tafwyl 2016. Mae'n binacl blwyddyn o waith caled o drefnu. Dim ond gobeithio nawr fydd y tywydd yn braf!