'Rhwystrau'n parhau i wynebu plant sy'n derbyn gofal'

  • Cyhoeddwyd
Disgybl

Mae plant sy'n derbyn gofal yn parhau i wynebu rhwystrau rhag cyrraedd a chyflawni mewn dysgu o'i gymharu â disgyblion eraill, yn ôl adroddiad newydd.

Mae'r adroddiad gan Estyn ar gyfer Llywodraeth Cymru, dolen allanol yn dweud bod angen gwneud mwy i "godi cyrhaeddiad, cyflawniad a dyheadau plant sy'n derbyn gofal".

Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod bwlch mawr o hyd rhwng cyrhaeddiad plant sy'n derbyn gofal a chyrhaeddiad disgyblion eraill.

Er hyn, mae Estyn yn cydnabod bod ysgolion ac awdurdodau lleol ledled Cymru yn cymryd camau i gynorthwyo plant sy'n derbyn gofal.

Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar enghreifftiau o arfer orau mewn ysgolion ac awdurdodau lleol.

Argymhellion

Mae Estyn yn gwneud cyfres o argymhellion, sy'n cynnwys y dylai Llywodraeth Cymru ystyried ehangu mesurau perfformiad i gynnwys cynnydd o gymharu â man cychwyn y plant ac ymestyn y tu hwnt i'r oedran ysgol statudol.

Mae hefyd yn argymell y dylai'r llywodraeth wneud yn siŵr bod cynlluniau gwariant y consortia rhanbarthol yn briodol i angen lleol, ac wedi'u seilio ar ddadansoddiad cadarn o anghenion plant sy'n derbyn gofal.

Dywedodd y prif arolygydd, Meilyr Rowlands: "Nid yw bron i hanner (45%) y plant sy'n derbyn gofal yn cymryd rhan mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth nac mewn cysylltiad â'u hawdurdod lleol yn 19 oed.

"Mae hyn o gymharu â thua 5% o blant eraill.

"Mae'r adroddiad hwn yn dangos, gydag ymrwymiad, penderfynoldeb a gweledigaeth strategol glir, gellir mynd i'r afael â bylchau mewn cyrhaeddiad a'u lleihau."

Croesawu'r adroddiad

Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu'r adroddiad, gan ddweud y byddai'n cyhoeddi ei ymateb yn fuan.

"Mae gan bob plentyn yng Nghymru - yn cynnwys y rheiny sy'n derbyn gofal - yr hawl i ddisgwyl addysg ardderchog," meddai llefarydd.

"Bydd y dystiolaeth yn yr adroddiad yn cefnogi cyflwyno ein strategaeth: 'Gwella uchelgeisiau a chyrhaeddiad addysgol plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru', gafodd ei gyhoeddi ym mis Ionawr."