Ateb y Galw: Gareth F. Williams

  • Cyhoeddwyd
gareth f williams

Yr awdur Gareth F Williams sy'n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw yr wythnos hon ar ôl iddo gael ei enwebu gan Bethan Gwanas yr wythnos diwethaf.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Mae cof gennyf o fy mam, pan oeddwn yn ddwy oed, yn craffu ar galendr ar y mur cyn troi ataf - ac roeddwn i'n eistedd fel bwda bach pinc ar y llawr ar y pryd, rwy'n siŵr - a dweud, "Mewn wsnos mi fyddi di'n dair oed".

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Beth yw eich diffiniad o "iau"? Mae llu o enethod a merched wedi gwibio trwy'r dychymyg crasboeth ers i mi ddechrau clywed oglau fy nŵr. Un o'r rhai cyntaf, a chryfaf, oedd merch o'r enw Mary a oedd yn yr un dosbarth â mi yn yr ysgol.

Sawl seren ffilm, wrth gwrs, o Maureen O'Sullivan yn yr hen ffilmiau 'Tarzan' du-a-gwyn, i Susan Sarandon (gan gynnwys Tinkerbell yn y ffilm gartŵn Disney 'Peter Pan') ac yn enwedig Sylvia Syms yn 'Ice Cold in Alex'; Sandie Shaw yn y 60au; Christine McVie o Fleetwood Mac yn y 70au... gallwn restru llawer mwy, ond dyhead ofer a thrist pry'r gannwyll am ryw seren bell oedd pob un ohonyn nhw.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Pan oeddwn yn yr ysgol gynradd, aeth y mwyafrif o hogia'r dosbarth i'r gangen leol o WH Smith un amser cinio gyda'r bwriad o ddwyn - rhyw fenter neu her wirion ganddyn nhw. Es i ddim, oherwydd yr oeddwn yn cael cinio gartref ac yn gwybod dim byd am y peth. Wrth gwrs, mi gawson nhw eu dal a'u cosbi gan y prifathro.

Od efallai yw dweud i mi deimlo cywilydd dros beidio â dwyn, ond y fi oedd yr unig un na chafodd ei alw allan o'r dosbarth gyda'r lleill, a chofiaf y genod yn edrych arnaf fel pe taswn i'n wahanglwyf - a'r hogia wedyn pan ddaethon nhw nôl i'r dosbarth.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Y llynedd, ar ôl cael newyddion go wael o'r ysbyty parthed fy iechyd.

Disgrifiad o’r llun,

Gareth yn derbyn gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2015 am ei nofel 'Awst yn Anogia'

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Gormod, mae'n siŵr. Rwy'n anobeithiol gyda materion ariannol, yn gadael popeth tan y munud olaf. Rwyf yn un gwael am guddio diffyg amynedd gyda rhywun sydd yn mynd ar fy nerfau, yn enwedig pobol sydd yn mynnu paldaruo am bethau nad oes gennyf friwsionyn o ddiddordeb ynddyn nhw. Ac rwy'n greadur blêr - buasai Dewi Sant yn rhegi petai o'n gweld y stydi yma sydd gennyf.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Gall hon hefyd fod yn restr go faith. Dyffryn Madog yn un: fel y dywedodd Neil Young, "In my mind I still need a place to go, all my changes were there". Abaty Tyndyrn ac Ystrad Fflur - "llonydd gorffenedig". Cwm Pennant fy mhlentyndod, cyn i'r byddinoedd melltigedig ddod o hyd iddo; i ddyfynnu'r hyn a ddywedodd JT Job am Gwm Pan Llafar - "lle nad oes lef ond ambell fref, a Duw a sŵn y dŵr."

Y noson orau i ti ei chael erioed?

O'r argol, am gwestiwn. Bu sawl un am resymau gwahanol iawn. O ran gwaith, pan gododd y gynulleidfa i'w thraed ar ddiwedd perfformiad o'm drama gyntaf yn Theatr Clwyd. A phersonol? - wel, pan gytunodd Rachel i'm priodi, y greadures fach druan.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Darllengar. Clên (ar y cyfan!). Tlawd.

Beth yw dy hoff lyfr?

Amhosib yw ateb cwestiynau fel hyn yn gryno. Sawl un mewn sawl genre. Yn Gymraeg - 'Cyn Oeri'r Gwaed' gan Islwyn Ffowc Elis a 'Llyfr Mawr y Plant'. 'Treasure Island', 'Madame Bovary' a 'Wuthering Heights'. 'Right Ho, Jeeves' gan PG Wodehouse. 'Collected Ghost Stories' gan MR James. 'Lonesome Dove gan Larry McMurtry'. 'Edge of Dark Water' gan Joe R Lansdale.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Does gen i ddim unrhyw ddiddordeb mewn dillad - dyn jîns a chrys-t ydw i - ond buaswn yn hiraethu ar ôl pâr o fotasau cowboi a brynais yn Efrog Newydd petai unrhyw beth yn digwydd iddyn nhw.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Petaech wedi gofyn hwn bythefnos yn ddiweddarach, buaswn wedi ateb trwy ddweud 'The Revenant' ond yr wyf yn cadw honno ar gyfer pan fyddem ar ein gwyliau mewn bwthyn ym Mhenfro. Yr wythnos hon rwyf wedi gwylio sawl un ar y teledu. Ond gwyliais DVD yn ddiweddar o'r clasur 'Night of the Demon', a 'Pat Garrett and Billy the Kid' gan Sam Pekinpah.

Disgrifiad o’r llun,

Oedd Gareth yn cuddio tu ôl i'r glustog tra'n gwylio 'Night of the Demon'?

Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?

Pwy ar wyneb y ddaear fuasai'n dymuno gwneud ffilm mor ddiflas? Buasai mor gyffrous a'r un ddi-ddiwedd a di-bwrpas honno a wnaeth Yoko Ono o oleuadau'r Empire State Building yn cael eu cynnau a'u diffodd.

Dy hoff albwm?

Eto fyth, cwestiwn gwirion. Amhosib yw dewis dim ond un. Mae sawl un o sawl gwahanol fath ar gerddoriaeth, ac o wahanol gyfnodau am wahanol resymau. 'Abraxas' gan Santana. 'St Cecilia's Mass' gan Gounod. 'Sticky Fingers' gan The Rolling Stones. 'Return of the Grievous Angel' gan Gram Parsons. 'The River', Springsteen. 'Red Dirt Girl', Emmylou Harris... o, dyna ddigon.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydy dy ffefryn a beth fyddai'r dewis?

Dim un. Does gen i ddim diddordeb mewn bwydydd. Rhowch i mi blatiad o facwn, ŵy a bara saim, neu sglodion ac ŵy, a dwi'n ddyn hapus.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Pwy bynnag sydd yn gyfrifol am gyfrifiadur y Dreth Incwm, er mwyn gallu dileu f'enw oddi arni.

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Caryl Lewis

Disgrifiad o’r llun,

Caryl Lewis, enillydd Llyfr y Flwyddyn eleni