Enwogion Stiwdio Rockfield

  • Cyhoeddwyd

Y tu allan i dref brysur Trefynwy, mae 'na fferm anghyffredin. Oes, mae yno anifeiliaid. Ond yno hefyd, mae'n debygol y gwelwch chi rai o gerddorion, cynhyrchwyr a pheirianwyr gorau'r byd cerddorol. Mae Karin Molson o Amgueddfa Trefynwy yn olrhain yr hanes.

Yn 1958, prynodd y teulu Ward, a oedd yn ffermwyr llaeth, Amberley Court. Roedd unwaith yn rhan o ystâd fawr Hendre, y teulu Rolls, ond fe wnaeth Charles a Kingsley, sef plant y teulu Ward, ddatblygu'r fferm yn stiwdios recordio eiconig Rockfield.

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Amgueddfeydd Sir Fynwy
Disgrifiad o’r llun,

Gwerthiant ceffylau yn Amberley Court, tua 1920au

Roc a rôl yng Nghymru

Yn 1960 ffurfiodd y ddau frawd fand o'r enw Charles Kingsley Combo, un o fandiau roc a rôl cyntaf Cymru, ac fe gafon nhw ddêl recordio gyda EMI. Fe chwaraeodd Charles a Kingsley eu tâp demo i'r cynhyrchydd George Martin (a aeth ymlaen wedyn i gynhyrchu'r Beatles) ond fe ddywedodd wrth y Kingsleys ar y pryd am ddychwelyd mewn chwe mis, pan oedd ganddyn nhw fwy o gynnyrch, ond aethon nhw fyth yn ôl ato.

Roedd Charles Kingsley Combo wedi dal sylw'r cynhyrchydd recordiau dylanwadol Joe Meek. Fe arwyddodd y band ac fe ddechreuon nhw deithio'n rheolaidd i Lundain i recordio. Roedd y ffaith eu bod nhw'n byw mewn ardal mor wledig yn Nhrefynwy, a Llundain mor bell, a dim traffordd ar y pryd, yn golygu bod y bartneriaeth gyda Joe yn un anodd.

Ffynhonnell y llun, Stiwdio Rockfield
Disgrifiad o’r llun,

Charles Kingsley Combo

Cafodd y brodyr Ward syniad o brynu eu hoffer recordio eu hunain, a'i osod yn yr atig yn ffermdy Amberley Court yn 1961. Ymhen pedair blynedd, roedden nhw wedi sefydlu stiwdio fasnachol ar y fferm, a'r flwyddyn wedyn fe wnaethon nhw sefydlu eu cwmni recordio eu hunain, sef Future Sounds Limited. Yn 1968, ehangodd y stiwdio a symud i'r Coach House, ar y fferm.

Bandiau o bob rhan o'r byd

Mae stiwdio'r Coach House wedi denu bandiau ac artistiaid o Brydain ac yn rhyngwladol. Yn 1965, arhosodd y band Elephants Memory yn y ffermdy tra'n gweithio yn y stiwdio, a dyma'i sefydlu fel y stiwdio recordio breswyl gynta'n y byd.

Ffynhonnell y llun, Stiwdio Rockfield
Disgrifiad o’r llun,

Prif stiwdio y 'Coach House'

Ar y 4ydd o Rhagfyr 1970, rhoddwyd enw newydd i'r stiwdio, sef Rockfield. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, roedd Rockfield wedi cynhyrchu ei sengl gyntaf i gyrraedd rhif 1, sef cân Dave Edmunds, Rockpile 'I Hear You Knocking'.

Queen a Bohemian Rhapsody

Roedd y llwyddiant yn y siartiau wedi rhoi Rockfield ar y map, cymaint fel agorwyd ail stiwdio, yn yr hen stablau, sef Quadrangle Studio. Yma, yn 1975, daeth y band Queen i recordio rhan o'r albwm 'A Night at the Opera', sy'n cynnwys y gân fwya' eiconig ohonyn nhw i gyd, 'Bohemian Rhapsody'.

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Amgueddfeydd Sir Fynwy
Disgrifiad o’r llun,

Gitâr Wonderwall Noel Gallagher, o Oasis, yn arddangosfa 'Stables to Studios'

O'i ddyddiau cynnar yn yr atig, mae Rockfield wedi mynd o nerth i nerth gan ddenu artistiaid fel Oasis, Robert Plant, Black Sabbath, Manic Street Preachers, Catatonia, Stereophonics, Tom O'Dell a Royal Blood.

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Amgueddfeydd Sir Fynwy
Disgrifiad o’r llun,

Wal o albyms yn arddangosfa 'Stables to Studios'