Ateb y Galw: Robat Gruffudd
- Cyhoeddwyd
Yr awdur Robat Gruffudd, perchennog gwasg Y Lolfa, sy'n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw yr wythnos hon ar ôl iddo gael ei enwebu gan Caryl Lewis yr wythnos diwethaf.
Beth ydy dy atgof cyntaf?
Eira mawr 1946 yn y Bala, lle roedden ni'n byw ar y pryd.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Geinor Evans. Ro'n i mewn cariad â hi o 10-13 oed. Roedden ni'n dau yn Ysgol Gymraeg Lôn-las, Abertawe. Gadawodd neges i fi un dydd yn dweud ei bod hi'n gorffen 'da fi ultimately - gair hyll, Saesneg sydd wedi serio yn fy nghof byth wedyn.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Cytuno i gais Sion Jobbins i bosio ar gyfer tudalennau "ffasiwn" Golwg. Rwy'n gobeithio'n fawr bod y tân yna yn y Llyfrgell Genedlaethol wedi llosgi pob copi o'u harchif.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Yng Ngwersyll Garchar Ravensbrück, i'r gogledd o Berlin, lle llofruddiwyd fy Mamgu gan y Natsïaid.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Oes, ddigon, ond yr un gwaethaf yw gofyn o hyd, ydy'r arferiad yma'n ddrwg neu beidio - yn hytrach na'i fwynhau.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Diolch am gwestiwn hawdd o'r diwedd! Talybont yw'r ateb wrth gwrs. Yn ôl unrhyw fesur cyffredin o safon byw -- amgylchedd hardd, cymdeithas fywiog, tafarnau da -- mae Talybont yn sgorio'n uchel iawn.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Ces i un fythgofiadwy gyda Gwilym Tudur mewn taferna yn Rethymnon, Creta lle buom yn trafod Ewrogomiwnyddiaeth tan y bore bach dros sawl caraff o win coch, garw gyda dau Gretiad ifanc o'r Brifysgol leol. (Roedd hynny rai blynyddoedd yn ôl; o edrych ar gyflwr Ewrop heddiw, mae'n ymddangos eu bod nhw'n iawn!)
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Cymro. Iddew. Almaenwr.
Beth yw dy hoff lyfr?
Fel cyhoeddwr byddai'n annoeth i fi enwi llyfr Cymraeg; fy hoff lyfr Saesneg yw dyddiaduron Boswell. Am y gweddill, anodd iawn dewis.. .wel, efallai'r 'Tao Te Ching', clasur Lao Tse, sy'n llawn cynghorion doeth sydd ar sut i redeg gwlad - a busnes. Rwy'n weddol siŵr bod yna gyngor yno yn rhywle: "peidiwch cynhyrfu'r bobl â refferenda diangen."
Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?
Does dim un, er gwaethaf fy soujourn i fyd ffasiwn (gw. uchod).
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?
Ffilm 5 awr a hanner o'r Meistersinger gan Wagner, oedd yn ddarllediad o Glyndebourne, yn Theatr y Werin. Ardderchog, ond sychedig.
Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?
Anghofiwch am y prosiect yma! Neith e ddim gweithio!!
Dy hoff albwm?
Un o fy ffefrynnau yw "Pan Hed Angylion Heibio" gan Dafydd Dafis (ond yn rhyfedd iawn, heb glywed y caneuon erioed ar Radio Cymru).
Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydy dy ffefryn a beth fyddai'r dewis?
Y gnocchi fel prif gwrs yn Gwesty Cymru, ond mae'r croeso cynnes, Cymraeg a'r awyrgylch fywiog yn cyfrannu cymaint at y profiad â'r bwyd ei hun.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Rwy'n gwybod yr ateb i hwn! Bod yn Gyfarwyddwr Artistig Theatr yr El Molino yn Barselona. Rwy'n dwlu ar gabaret a dethon ni ymlaen yn dda er bod 'da fi ddim Sbaeneg, na fe, dim Saesneg, ac felly rwy'n hyderus y bydd e'n barod i fi gymryd ei le am un noson.
Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesa'?
Fy mrawd, Heini Gruffudd