Cymraeg Lefel A: Prinder bechgyn

  • Cyhoeddwyd
suzy davies

Gallai methiant i annog disgyblion gwrywaidd i astudio'r Iaith Gymraeg fel pwnc Safon Uwch fod yn niweidiol i ddyfodol yr iaith, yn ôl llefarydd y Ceidwadwyr ar yr Iaith Gymraeg, Suzy Davies.

Mae Ms Davies hefyd yn credu y gallai cyfleoedd i ddynion ifanc yn yr economi Gymreig, ynghyd â'u mudoledd cymdeithasol, ddiodde' am yr un rheswm.

Wrth siarad ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni, dywedodd Ms Davies bod angen i Lywodraeth Cymru ymateb ar frys i'r diffyg cydbwysedd rhyw ymysg rhai sy'n astudio Cymraeg Safon Uwch.

Yn 2015, dim ond 18.8% o bapurau Safon Uwch Iaith Cymraeg gafodd eu sefyll gan fechgyn. Mae'r nifer a wnaeth 36% yn is nag yn 2011.

'Hanfodol'

Dywedodd Suzy Davies: "Mae'r ystadegau yn dangos bwlch rhyw anferth yn y niferoedd sy'n astudio Iaith Cymraeg fel pwnc Safon Uwch, ac yn wir cwymp yn y nifer sy'n astudio'r pwnc o gwbl.

"Er mwyn i iaith ffynnu, mae'n hanfodol bob pobl ar draws cymdeithas yn cymryd rhan. Mae'r ystadegau'n her i ddyfodol hirdymor yr iaith.

"Gall sgiliau iaith fod o fudd mawr hefyd i gefnogi mudoledd cymdeithasol, a chyfleoedd economaidd unigolyn.

"Yn yr wythnos lle mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae'n glir bod angen i weinidogion Cymru ymchwilio pam fod astudio Cymraeg Safon Uwch mor amhoblogaidd ymysg bechgyn yn enwedig."