Rio: Ail fedal arian i Becky James yn y Gemau Olympaidd

  • Cyhoeddwyd
lauraFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Katy Marchant a Becky James

Mae'r Gymraes Becky James wedi ennill ei hail fedal arian dros Team GB yn y Gemau Olympaidd yn Rio.

Fe ddaeth y feicwraig o'r Fenni yn ail yn y ras wib unigol i ferched gan sicrhau, i bob pwrpas, y nawfed medal i Gymru.

Kristina Vogel o'r Almaen enillodd yr aur.

Mae James, 24 oed, wedi ychwanegu at y fedal arian yr enillodd hi yn y keirin ddydd Sadwrn.

Mae'r Cymry wedi cael mwy o fedalau nag erioed o'r blaen yn Rio.

Saith oedd y record medalau cyn hyn yn y Gemau yn Llundain.

Dywedodd James ei bod yn "hapus iawn", gan ychwanegu: "Byddwn i byth wedi disgwyl ennill dwy fedal arian, felly rwyf wrth fy modd."

Mae'r hwylwraig o Ddinas Powys, Hannah Mills, hefyd wedi ennill aur gyda'i phartner, Saskia Clark ar ôl sicrhau digon o bwyntiau i guro yn y dosbarth 470.

Dim ond gorffen y ras sydd angen i'r ddwy wneud ddydd Mercher i sicrhau eu lle ar frig y podiwm.