Ateb y Galw: Joe Allen

  • Cyhoeddwyd
Joe AllenFfynhonnell y llun, Matthew Horwood

Chwaraewr canol cae Cymru a Stoke City, Joe Allen, sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddo gael ei enwebu gan Ben Davies yr wythnos diwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Bod yn yr ysbyty yn dair oed yn cael tynnu fy nhonsils.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Jessica Alba.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Pan gafodd fy ngherdyn credyd ei wrthod ar ddêt cyntaf.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Pan o'n i'n gwylio'r ffilm 'Marley & Me'... mae'n fy nghael i bob tro!

Joe AllenFfynhonnell y llun, VI-Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Joe ymhlith arwyr Cymru yn Euro 2016

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi'n cnoi fy ngwinedd.

Beth yw dy hoff le yng Nghymru a pham?

Sir Benfro, achos does unman tebyg i gartre.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Diwrnod a noson fy mhriodas, roedd e'n anhygoel o'r dechrau i'r diwedd.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Cyfeillgar, gonest a swil.

Beth yw dy hoff lyfr?

'Northern Lights' gan Philip Pullman.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Crys-t tie-dye wnaeth fy mab i fi, am resymau sentimental.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

'Suicide Squad'. Roedd o'n eitha da.

Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?

Zach Galifianakis.

Mae barf Zach gystal ag un Joe, ond ydy o yn gallu pasio'r bêl gystal?
Disgrifiad o’r llun,

Mae barf Zach gystal ag un Joe, ond ydy o yn gallu pasio'r bêl mor gywir a'r Cymro?

Dy hoff albwm?

'By The Way' gan Red Hot Chili Peppers.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn a be' fyddai'r dewis?

Dwi wrth fy modd gyda pwdin, ac yn enwedig chocolate fondant.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Leonardo Di Caprio.

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Owain Tudur Jones.

Roedd Owain Tudur Jones yn dyst i lwyddiant Joe a thîm Cymru yn Ffrainc yn gynharach yr haf yma fel aelod o banel S4CFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Owain Tudur Jones yn dyst i lwyddiant Joe a thîm Cymru yn Ffrainc yn gynharach yr haf yma fel aelod o banel S4C