Cymru 4-0 Moldova

  • Cyhoeddwyd
VokesFfynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Peniad Sam Vokes roddodd Cymru ar ben ffordd

Cafodd Cymru y dechrau perffaith i'w hymgyrch ragbrofol ar cyfer Cwpan y Byd 2018 gyda buddugoliaeth gyfforddus dros Moldova.

Roedd Stadiwm Dinas Caerdydd bron yn llawn ar gyfer gornest gyntaf y tîm ers eu taith i Ffrainc dros yr haf.

Ac fe gawson nhw noson i'w chofio wrth i goliau gan Sam Vokes, Joe Allen a dwy gan Gareth Bale sicrhau tri phwynt yng ngornest agoriadol y grŵp.

Y crysau cochion reolodd y rhan fwyaf o'r hanner cyntaf, gyda'r ymwelwyr yn ddigon hapus i gadw dynion y tu ôl i'r bêl a chadw'n dynn yn amddiffynnol.

Ar ôl saith munud fe aeth Chris Gunter i lawr yn y cwrt cosbi ond fe benderfynodd y dyfarnwr nad oedd hi'n drosedd.

Cafodd Joe Ledley, Bale a Neil Taylor hefyd gyfleoedd yn ystod yr hanner cyntaf, cyn i Vokes benio'r bêl i gefn y rhwyd o groesiad Bale ar ôl 38 munud.

Joe AllenFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe sgoriodd Joe Allen ei gôl gyntaf dros ei wlad

Roedd hynny'n ddigon i godi'r dorf i'w traed, gyda'r rheolwr Chris Coleman hefyd yn medru ochneidio o ryddhad ar ôl hanner cyntaf rhwystredig.

Dyblwyd y fantais funud cyn yr egwyl wedi i Allen fanteisio ar bêl gafodd ei chlirio o gic gornel, a'i tharo i gefn y rhwyd o dan gorff y golwr ar gyfer ei gôl gyntaf dros ei wlad.

Ar ôl creu'r gyntaf i Vokes, fe gafodd Bale un i'w hun wedi 51 munud wrth iddo fanteisio ar bas lac gan un o amddiffynnwyr Moldova cyn carlamu am y gôl ac yna codi'r bêl dros y golwr.

BaleFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bale bellach wedi sgorio 24 o goliau dros Gymru - dim ond Ian Rush sydd â mwy

Gyda'r tri phwynt yn saff fe ddaeth Emyr Huws ymlaen yn lle Joe Ledley am ei wythfed cap, cyn i Hal Robson-Kanu gymryd lle Vokes yn y llinell flaen.

Fe gymerodd Allen y gapteiniaeth wrth i Ashley Williams ddod oddi ar y cae gyda deng munud i fynd, gyda James Collins yn dod ymlaen fel eilydd i ennill ei 50fed cap.

Ac fe ychwanegodd Bale bedwaredd gôl o'r smotyn yn y funud olaf, ar ôl cael ei wthio yn y cwrt cosbi.

Yng ngemau eraill y grŵp fe enillodd Awstria o 2-1 i ffwrdd yn Georgia, ac fe orffennodd hi'n gyfartal o 2-2 rhwng Serbia a Gweriniaeth Iwerddon.