Dale Evans 'yn torri ei galon' ar ôl marwolaeth bocsio

  • Cyhoeddwyd
Mike TowellFfynhonnell y llun, STV
Disgrifiad o’r llun,

Mike Towell cyn dechrau'r ornest

Mae'r bocsiwr o Gymru, Dale Evans, yn dweud ei fod wedi "torri ei galon" yn dilyn marwolaeth ei wrthwynebydd Mike Towell.

Bu farw Towell, 25, yn yr ysbyty ddydd Gwener ar ôl yn yr ornest gydag Evans y diwrnod cynt.

Fe yw'r trydydd bocsiwr proffesiynol o Brydain i farw o ganlyniadau i anafiadau yn y ring focsio mewn 21 mlynedd.

"Dw i'n teimlo fel mai fi sy'n gyfrifol," meddai Evans, 24, wrth y BBC.

"Allai ddim stopio meddwl am Mike a'i deulu druan. Dw i'n meddwl amdanyn nhw."

'Cwyno o gur pen'

Cafodd Towell ei daro i'r llawr yn rownd gyntaf yr ornest yng ngwesty'r Radisson Blu yn Glasgow, ond fe lwyddodd i barhau â'r ornest.

Fe benderfynodd y dyfarnwr ddod â'r ornest i ben yn y bumed rownd wedi i'r Albanwr gael ei lorio am yr eilwaith. Cafodd driniaeth yn y ring cyn cael ocsigen ac yna cael ei gludo mewn ambiwlans.

Dywedodd partner Towell, Chloe Ross, ei fod wedi marw "yn dawel" toc cyn 23:00 nos Wener, 12 awr ar ôl cael ei dynnu oddi ar beiriant cynnal bywyd.

"Roedd gan Michael waedu ac ymchwydd difrifol ar ei ymennydd," meddai mewn neges ar Facebook.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dale Evans (chwith) wedi bod yn ymladdwr proffesiynol ers 2011

"Roedd e wedi bod yn cwyno am gur pen am yr wythnosau diwethaf ond roedden ni'n credu mai meigryn oedd e, yn gysytlliedig â phwysau'r ornest.

"Dyma 24 awr hiraf ein bywydau. Mae fy mabi wedi colli ei dad. Ond fe fydd e mor falch o'i dad a beth gyflawnodd e."

Teimlad 'ofnadwy'

Dywedodd Dale Evans ei fod wedi ystyried ymddeol o focsio yn dilyn yr ornest, ond ei fod nawr yn gobeithio dod yn bencampwr Prydain er cof am Towell.

Ychwanegodd nad oedd bocswyr fel arfer yn meddwl am y goblygiadau trasig posib cyn iddyn nhw gamu i'r ring.

"Mae hi wedi bod yn ofnadwy," meddai. "Yr unig beth allai feddwl amdano yw ei fab dyflwydd oed a'i gariad a'r teulu fydd yn gweld ei fethu.

"Dw i'n teimlo fel mai fi sy'n gyfrifol achos ni yw'r rhai sy'n taro'n gilydd - ac mae hwn yn rywbeth y bydd yn rhaid i mi fyw ag e nawr."