Ymchwilio wedi i danwydd lifo i afon ger Caerfyrddin
- Cyhoeddwyd
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymchwilio ar ôl i gerosin lifo o bibell o dan yr A48 ger Caerfryddin i Afon Pibwr.
Ar hyn o bryd mae rhan o'r A48 i'r dwyrain ynghau am gyfnod o chwe wythnos er mwyn i bibell tanwydd gael ei thriwsio.
Dywed CNC fod contractwyr arbenigol wedi eu galw i'r safle er mwyn cyfyngu unrhyw niwed i'r amgylchedd, ac mae swyddogion CNC hefyd yn monitro nentydd ac afonydd lleol.
Dywedodd Aneurin Cox o Gyfoeth Naturiol Cymru nad ydynt yn gwybod faint o danwydd sydd wedi ei ollwng.
Rhwystrau
"Mae'n bosib y bydd pobl leol yn gallu arogli gwynt yn yr ardal, ond ar hyn o bryd does yna ddim adroddiadau o niwed i bysgod a bywyd gwyllt yn yr ardal."
Ond mae gohebydd BBC Cymru yn y gorllewin, Aled Scourfield, yn dweud fod nifer o bysgod marw nawr wedi cael eu darganfod.
Ychwanegodd fod rhwystrau wedi eu rhoi ar yr Afon Pibwr er mwyn ceisio rwystro cerosin rhag cyrraedd y Tywi.
Cafodd y cerosin ei ddarganfod ger Afon Pibwr, lle mae gwaith yn cael ei wneud ar bibell sy'n cludo tanwydd.
Eisoes roedd rhan o ffordd yr A48 i'r dwyrain, sy'n cysyltu gorllewin Cymru gyda'r M4, wedi ei chau am gyfnod o chwe wythnos er mwyn i'r bibell gael ei thriwsio.
Roedd angen gwneud y gwaith am fod nam wedi ei ddarganfod ar ddarn o'r bibell amldanwydd sy'n mynd o burfa Valero ym Mhenfro i derfynellau ym Manceinion a Kingsbury.
Dywedodd y cynghorydd sir lleol Elwyn Williams fod pysgod newydd gael eu hailgyflwyno i Afon Pibwr ddwy flynedd yn ôl a bod yr hyn sydd wedi digwydd yn "drychinebus."
"Am 40 mlynedd doedd dim pysgod yn yr afon yma, yn y ddwy flynedd diwethaf yma maen nhw wedi dechrau dod yn ôl - ac mae olew yma, fi'n gallu gweld gyda llygaid fy hunain.
"Wel 'ma hwn yn mynd i ddodi'r afon yn ôl deg mlynedd."
Dywedodd llefarydd ar ran Valero fod y bibell yn gollwng yn ardal Nant-y-Caws, lle mae gwaith atgyweirio yn mynd rhagddo.
"Cafodd y bibell ei chau yn syth, ac mae tîm rheoli ar y safle ac yn ymchwilio i'r digwyddiad," meddai.
"Mae'n bosib y bydd trigolion yn gallu arogli cerosin yn agos i safle'r bibell, ac mae cyngor iddynt gadw eu ffenestri ar gau. Ond er y gallai fod yn anghyfleus does yna ddim perygl."
Mae Valero yn gobeithio y bydd y gwaith gwreiddiol o atgyweirio'r bibell wedi ei gwblhau erbyn dydd Gwener, 28 Hydref.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi eu hysbysu am y digwyddiad a bod contractwyr arbenigol ar y safle.
Ychwanegodd y llefarydd fod swyddogion CNC yn cadw llygad ar ffosydd ag afonydd lleol ag yn cydweithio'n agos gydag asiantaethau eraill i asesu a lleihau'r risg i iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd.