Cyhoeddi map peilonau newydd o orsaf niwclear ym Môn
- Cyhoeddwyd
Mae map o lwybr y peilonau fydd yn cludo ynni o orsaf niwclear Wylfa Newydd ar Ynys Môn wedi ei gyhoeddi am y tro cyntaf.
Cafodd y map, sydd wedi ei gynhyrchu fel rhan o ymgynghoriad, ei gyhoeddi ddydd Mercher.
Mae'r National Grid hefyd wedi cyhoeddi darlun o'r twnnel pum metr o hyd fydd yn cael ei adeiladu o dan y Fenai.
Mae'r peilonau wedi bod yn ddadleuol yn lleol, gydag ymgyrchwyr yn dadlau y dylid cludo'r ynni drwy geblau tanddaearol.
Bydd yr ymgynghoriad yn para tan 16 Rhagfyr.
Dywedodd llefarydd ar ran y National Grid fod llwybr y peilonau newydd yn gyffredinol yn rhedeg gyfochr i'r peilonau sy'n bodoli'n barod ar hyd yr ynys a gogledd Gwynedd.
Bydd yr ymgynghoriad hefyd yn gofyn am farn pobl am ychwanegu at faint is-orsafoedd Wylfa a Phentir, ynghyd â gwaith ar y twnnel.