Canolfan siopa gwerth £40 miliwn ym Merthyr Tudful
- Cyhoeddwyd
![Trago Mills](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/640/cpsprodpb/9B0E/production/_91549693_merthyr.jpg)
Darlun y datblygwyr o'r siop newydd
Mae gwaith adeiladu yn dechrau ym Merthyr Tudful ar ganolfan siopa a hamdden newydd.
Mae disgwyl i'r fenter greu 400 o swyddi. Bydd y ganolfan yn cael ei hadeiladu wrth ymyl parc manwerthu Cyfarthfa ac fe fydd yn cynnwys adeilad 30,250 metr sgwâr, yn ogystal â ffyrdd a maes parcio newydd.
Bydd siop newydd Trago Mills yn cynnwys caffi, canolfan arddio, a lle chwarae.
Mae'r cwmni yn gwerthu nwyddau gan gynnwys dodrefn, dillad, teganau a llyfrau.
![Bydd y ganolfan yn cael ei hadeiladu wrth ymyl parc manwerthu Cyfarthfa](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/cpsprodpb/141DA/production/_91549328_4c5fe4e3-3e1b-47cf-a506-84aad455c955.jpg)
Bydd y ganolfan yn cael ei hadeiladu wrth ymyl parc manwerthu Cyfarthfa
Yn ogystal bydd warws sylweddol yno a swyddfeydd.
Yn ôl y datblygwyr fe ddylai'r ganolfan newydd gael ei chwblhau erbyn 2018.
Disgwylir i'r prosiect adeiladu gyflogi tua 250 o weithwyr yn ystod y ddwy flynedd nesaf.