Pedwar cwmni yn ceisio ennill cytundeb Metro De Cymru
- Cyhoeddwyd
Pedwar o gwmnïau tramor sydd yn y ras i gystadlu am y cytundeb i redeg gwasanaethau trên yng Nghymru, fel rhan o'r cynllun £600m i sefydlu Metro De Cymru.
Mae ceisiadau wedi cael eu cyflwyno gan Abellio, Arriva, KeolisAmey a MTR ar gyfer masnachfraint nesaf Cymru a'r Gororau.
Bydd yn rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus gyfranu cyfran o'i elw ar gyfer ail-fuddsoddiad yn y rheilffordd.
Byddant hefyd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth uwchraddio mawr i'r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghaerdydd a'r cyffiniau, fel rhan o'r cynllun Metro.
Bydd cytundeb yn cael ei ddyfarnu yn gynnar yn 2018.
Mae'r pedwar cynnig yn cael eu hasesu gan Trafnidiaeth Cymru (TfW), cwmni sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru.
Dywedodd swyddogion mai dim ond pedwar cwmni sydd wedi dangos diddordeb yn y cytundeb.