Y pêl-droediwr Ched Evans yn ddieuog o dreisio

  • Cyhoeddwyd
Ched EvansFfynhonnell y llun, Tom Martin/Wales news service

Mae'r pêl-droediwr Ched Evans wedi ei gael yn ddieuog o dreisio dynes mewn gwesty yn Sir Ddinbych yn 2011.

Dyma oedd yr ail achos ar ôl i Mr Evans, 27, ennill apêl yn erbyn y dyfarniad gwreiddiol.

Roedd Mr Evans wedi gwadu treisio'r ddynes, oedd yn 19 ar y pryd, yng ngwesty'r Premier Inn yn Rhuddlan ym mis Mai 2011.

Fe'i cafwyd yn ddieuog gan y rheithgor wedi llai na thair awr o drafod.

Roedd Mr Evans yn crio yn y llys wedi i ddyfarniad y rheithgor gael ei gyhoeddi.

Mewn datganiad gafodd ei ddarllen wedi'r achos, dywedodd Mr Evans bod yr achos wedi newid ei fywyd a bywydau eraill.

"Hoffwn ddiolch i fy nghyfreithwyr... am eu gwaith diflino ar fy rhan a diolch i fy nheulu a ffrindiau - yn enwedig fy nyweddi wnaeth benderfynu fy nghefnogi yng nghyfnod tywyllaf fy mywyd."

Ychwanegodd ei fod yn "ymddiheuro o waelod calon i unrhyw un sydd wedi eu heffeithio gan ddigwyddiadau'r noson dan sylw".

Ffynhonnell y llun, Wales news service
Disgrifiad o’r llun,

Ched Evans gyda'i ddyweddi Natasha Massey tu allan i Lys y Goron Caerdydd ar ddiwedd yr achos

Yn dilyn y dyfarniad, dywedodd Chris Turner, prif weithredwr Clwb Pêl-droed Chesterfield, lle mae Ched Evans yn chwarae: "Rydym yn naturiol wrth ein bodd gyda'r canlyniad, yn enwedig i Ched, ei deulu a'i ffrindiau.

"Fe allwn i gyd symud ymlaen nawr a chanolbwyntio ar bêl-droed."

Ail achos

Cafwyd Mr Evans yn euog o dreisio yn 2012, ac fe gafodd ei garcharu am bum mlynedd. Cafodd ei ryddhau yn 2014.

Ond fe wnaeth barnwyr yn y Llys Apêl ddiddymu'r euogfarn ym mis Ebrill, gan arwain at ail achos.

Yn yr achos newydd yn Llys y Goron Caerdydd, roedd yr erlyniad wedi honni nad oedd gan y ddynes y "capasiti" i gydsynio i ryw.

Ond mynnodd yr amddiffyniad bod y ddynes wedi cytuno i gael rhyw hefo fo, ac nad oedd o wedi ei threisio.

Disgrifiad o’r llun,

Ched Evans (canol) gyda'i ddyweddi tu allan i Lys y Goron Caerdydd ar ddiwedd yr achos

Fe wnaeth Mr Evans, oedd yn chwarae i Sheffield United pan y'i cafwyd yn euog, ddod yn agos at arwyddo i glwb Oldham Athletic yn Ionawr 2015.

Ond fe wnaeth y clwb dynnu'n ôl yn dilyn cwynion gan noddwyr, a bygythiadau i aelodau staff.

Cafodd gynnig i ddefnyddio cyfleusterau hyfforddi Sheffield United yn 2014, ond fe wnaeth y clwb dynnu'r cynnig hwnnw'n ôl wedi i 170,000 o bobl arwyddo deiseb yn erbyn y cynnig.

Gofynnodd yr athletwraig Olympaidd, Jessica Ennis-Hill, i'r clwb dynnu ei henw oddi ar un eisteddle os oedden nhw'n ail-arwyddo Mr Evans, ac fe wnaeth tri noddwr ymddiswyddo.

Fe wnaeth Ched Evans arwyddo i Chesterfield ym mis Mehefin ar ôl yr apêl.

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru nad oedden nhw am wneud sylw yn dilyn yr achos llys.

Cyfryngau cymdeithasol

Yn fuan wedi'r dyfarniad ddydd Gwener, cafodd enw'r ddynes oedd yn sail i'r gŵyn yn yr achos ei gyhoeddi gan unigolion ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae hyn wedi ei wahardd yn gyfreithiol gan fod gan bobl sydd yn gwneud cwynion am droseddau rhyw yr hawl i aros yn ddienw am weddill eu hoes.

Dywedodd yr Uwcharolygydd Jo Williams o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae angen i bobl fod yn ymwybodol y gallant gael eu harestio a'u herlyn. Fe ddigwyddodd hyn o'r blaen ac fe gafodd pobl eu herlyn a'u dirwyo'n drwm."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ched Evans yn chwarae i'w glwb Chesterfield