Ffordd yr A48 yn parhau ar gau ger Caerfyrddin
- Cyhoeddwyd

Mae ffordd yr A48 yn parhau ar gau ddydd Sul ger Caerfyrddin er mwyn cynnal gwaith atgyweirio ar ôl i dros 140,000 litr o gerosin ollwng.
Mae'r ffordd, sy'n un o'r prif hewlydd i orllewin Cymru, wedi gorfod cau er mwyn i waith atgyweirio gael ei wneud yn ardal Nantycaws.
Dros y penwythnos bu ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng Nantycaws a Chaerfyrddin ers 19:00 ddydd Gwener ac fe fydd yn parhau ar gau nes 06:00 ddydd Llun.
Roedd ochr ddwyreiniol y ffordd eisoes wedi ei chau cyn i'r cerosin ollwng o'r bibell sy'n mynd dan yr A48.
Dywedodd y cwmni sy'n gyfrifol am y bibell, Valero, eu bod wedi adfer 120,000 litr o'r 140,000 wnaeth ollwng, a'u bod yn disgwyl gorffen eu gwaith o'i drwsio ar amser.

Ymdrechion i atal cerosin rhag parhau i lygru dŵr afon