Cyllideb Cymru: Beth allwn ni ddisgwyl?
- Cyhoeddwyd

Bydd aelodau'r Cynulliad yn ymgynnull brynhawn dydd Mawrth am un o gyhoeddiadau pwysicaf calendr y Cynulliad, sef Cyllideb Cymru.
Bydd Mark Drakeford yn cyflwyno cynlluniau gwario Llywodraeth Cymru am y tro cyntaf ers iddo gael ei benodi'n Ysgrifennydd Cyllid.
Yng nghyllideb diwethaf Cymru - ar gyfer 2016-17 - fe welwyd toriadau i awdurdodau lleol ond mwy o arian ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac i addysg.
Fel yn y blynyddoedd diweddar, mae'r cynllun eleni yn debyg o fod yn awgrym sut y bydd Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu dosbarthu'r arian sy'n dod o San Steffan - pot o arian sy'n crebachu'n flynyddol.

A fydd mwy o doriadau?
Roedd cyfanswm cyllideb y llynedd bron yn union £15 biliwn, ond ar gyfer 2017-18 rydym yn disgwyl i hynny leihau i rhywle rhwng £14.6bn a £14,8bn.
Mae hynny'n golygu rhwng £200m a £400m yn llai i wario.
Mae'n anochel felly y bydd toriadau mewn rhannau o gyllideb Llywodraeth Cymru.
Dyma fydd y gyllideb olaf lla nad oes gan Lywodraeth Cymru y gallu i godi arian ei hun drwy drethi - erbyn 2018 bydd rhai trethi megis treth stamp a thirlenwi wedi eu datganoli.
Ar wahan i rhyw ychydig o drethi busnes felly, mae Llywodraeth Cymru yn derbyn ei chyllid i gyd gan lywodraeth y DU.

Beth sy'n rhaid i Lafur dalu amdano?

Carwyn Jones yn lansio maniffesto Llafur cyn etholiad y Cynulliad ym mis Mai
Yn etholiad y Cynulliad fe wnaeth Llafur - y blaid fwyaf sy'n arwain llywodraeth sydd hefyd yn cynnwys un Democrat Rhyddfrydol - restr o addewidion sy'n rhaid talu amdanynt.
Mae'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu polisi o 'ennill un - colli un' yn golygu bod gwario ar rywbeth newydd yn golygu diddymu rhywbeth arall er mwyn talu amdano.
Ychydig wythnosau yn ôl fe ddywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones y byddai Llafur yn cadw at eu haddewidion, ond rhybuddiodd y byddai toriadau.
Mae rhaglen lywodraethu pum mlynedd Llywodraeth Cymru yn cynnwys:
30 awr o ofal plant am ddim bob wythnos i rieni plant tair a phedair oed;
100,000 o brentisiaethau ar gyfer pobl o bob oed;
Torri trethi busnes i fusnesau bach;
Gwell mynediad i feddygfeydd meddygon teulu a chronfa ar gyfer triniaethau newydd.

Beth sy'n debyg o osgoi'r fwyell?

Mae GIG Cymru yn un adran lle mae disgwyl cynnydd mewn gwariant
Mae gweinidogion wastad o dan bwysau i gyllido'r GIG, ac fe allwn ni weld hwb i iechyd yn y gyllideb.
Yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth arbenigwyr rybuddio y gallai GIG Cymru wynebu twll du o £700 miliwn yn ei chyllideb ymhen cyn lleied â thair blynedd.
Fe gafodd yr arian i'r GIG ei gwtogi yn 2010 ac am dair blynedd wedi hynny - gan arwain at feirniadaeth lem - ond yn fwy diweddar mae'r gyllideb wedi cynyddu eto.
Ar hyn o bryd mae iechyd a gofal cymdeithasol yn cymryd 48% o gyllideb Llywodraeth Cymru.
Ai dyma'r flwyddyn y gwelwn ni'r canran o wariant ar iechyd yn cyrraedd 50% - neu fwy?
Yn y cyfamser mae llywodraeth leol yn lobïo i beidio gweld toriadau pellach i gynghorau.
Y llynedd fe wnaeth Llywodraeth Cymru gwtogi'r arian i gynghorau o 2%, ond roedden nhw'n teimlo bod hynny'n hael o gymharu â'r hyn ddigwyddodd yn Lloegr.
O ystyried y gallai Llafur wynebu ambell frwyr galed yn etholiadau'r cynngor fis Mai nesaf, mae'n bosib y gallai cynghorau sir gael ysbaid heb fwy o doriadau y tro hwn.

Beth fydd yn cael ei dorri'n llwyr?

Roedd Port Talbot yn un o'r ardaloedd lle cafodd arian Cymunedau'n Gyntaf ei wario
Rydym eisoes wedi clywed bod cynllun Cymunedau'n Gyntaf - sy'n werth £30 miliwn y flwyddyn - yn mynd i gael ei ddiddymu.
Bu'r cynllun yn arwain ymdrechion Llywodraeth Cymru i daclo tlodi am 15 mlynedd, ond dywedodd yr Ysgrifennydd Cymunedau Carl Sargeant nad oedd yn teimlo ei fod yn effeithiol bellach.
Mae digon o adrannau eraill allai weld catogiad yn eu cyllidebau - addysg bellach, datblygu economaidd ac efallai adnoddau naturiol.
Mae'r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams wedi mynegi amheuaeth ac effeithiolrwydd Her Ysgolion Cymru - cronfa sydd wedi'i hanelu at ysgolion sy'n tangyflawni. Tybed fydd y cynllun £20 miliwn yn dod i ben?

A fydd Llywodraeth Cymru cael sêl bendith y Cynulliad i'r gyllideb?
Er na wnaeth Llafur ennill mwyafrif yn etholiad y Cynulliad, maen nhw eisoes wedi sicrhau cytundeb gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol (Kirsty Williams, sy'n aelod o'r cabinet) a Phlaid Cymru.
Ddydd Llun dywedodd Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru, ei bod wedi cynnal trafodaethau gyda Llafur, a dywedodd:
"Roedd y trafodaethau'n gynhyrchiol, ac rwy'n hapus iawn gyda'r cytundeb rhyngom a'r llywodrateh Lafur.
"Dydw i ddim yn gallu rhoi manylion ar hyn o bryd, ond mae digon i ddangos bod blaenoriaethau Plaid Cymru wedi cael ei cyflawni."