Aderyn y bwn yn nythu yng Nghymru unwaith eto
- Cyhoeddwyd
Mae'r RSPB wedi datgelu bod aderyn y bwn wedi bod yn nythu yng Nghymru am y tro cyntaf ers 1984.
Yn ôl y gymdeithas mae hyn wedi digwydd yn dilyn blynyddoedd o waith cadwraethol.
Fe welwyd yr aderyn, sef math o grëyr brown, yn nythu yn ardal yr RSPB ym Malltraeth ar Ynys Môn dros yr haf.
Dywedodd Ian Hawkins, Rheolwr Safle RSPB Malltraeth: "Ffurfiwyd y warchodfa yn 1994 gyda'r nod hwn mewn golwg.
"Mae darganfod bod aderyn y bwn wedi nythu yng Nghymru am y tro cyntaf mewn 32 mlynedd ar ein gwarchodfa ni oedd yr eisin ar y gacen."
'Amynedd'
Disgrifiodd pa mor anodd yw gweld yr aderyn cyfrinachol.
"Mae popeth am aderyn y bwn yn gofyn am amynedd a chlymu cliwiau bychain at ei gilydd i greu darlun clir," meddai.
"Gwyliwn y fenyw yn hedfan bwyd drwy gydol y cyfnod nythu, ac un noson, tua'r adeg y dylai'r ifanc gadael y nyth roeddem yn ddigon ffodus i weld adar y bwn dibrofiad yn dychwelyd i'r nyth.
"Rydym yn ddiolchgar i'r gwylwyr adar lleol sy'n ymwybodol am yr adar ers cyfnod, ond cytunwyd i gadw draw i roi pob cyfle i'r cyw nythu yn llwyddiannus."