Pryder bod llai yn astudio pynciau creadigol yn yr ysgol
- Cyhoeddwyd

Mae pryderon ynglŷn â chwymp yn nifer y plant sy'n astudio drama a phynciau creadigol eraill yn ysgolion Cymru.
Roedd nifer y myfyrwyr oedd wedi sefyll arholiadau drama TGAU yn yr haf 8% i lawr o'r flwyddyn flaenorol, ac mae'r ffigwr draean yn is nag yr oedd ddegawd yn ôl.
Mae'n rhan o batrwm mwy cyffredinol o duedd i symud i ffwrdd o bynciau dewisol, gyda mwy o sylw'n cael ei rhoi ar elfennau craidd y cwricwlwm.
Mae pennaeth un cwmni theatr yn dweud y gallai gael effaith niweidiol ar addysg rhai disgyblion ac ar y diwydiannau creadigol.
Ers mis Medi mae Cwmni Theatr Arad Goch wedi cynnig drama TGAU i ddisgyblion Aberystwyth a'r cyffiniau, a hynny wrth i'r ddarpariaeth ddod i ben yn ysgol gyfun Gymraeg y dre, Ysgol Penweddig.
Yn ôl cyfarwyddwr artistig y cwmni, Jeremy Turner mae'r ymateb wedi bod yn bositif.
"Arbrawf oedd hi eleni gan wybod bod drama yn diflannu o ddarpariaeth un ysgol ac mae'r arbrawf wedi profi i fod yn llwyddiannus," meddai.
Drama'n diflannu?
Am £180 y tymor mae'r plant yn cael gwers dwy awr bob wythnos, ar ôl oriau ysgol.
Mae cymorth i blant o gefndiroedd mwy tlawd ond roedd rhaid ystyried yn ofalus cyn sefydlu'r cwrs, yn ôl Mr Turner.

Mae Jeremy Turner yn poeni y bydd llai o bobl i weithio yn y diwydiannau creadigol
"Mi fyddai'n llawer gwell pe bai cyrsiau'n cael eu darparu gan bob ysgol yng Nghymru," meddai.
"Dwi wedi pryderu, 'da ni fel cwmni wedi pryderu, ynglŷn â gosod sylfaen addysg breifat ac mae'n dal i bryderu fi.
"Ond dwi'n pryderu hefyd ynglŷn â'r ffaith bod nifer o ysgolion Cymru yn tynnu drama oddi ar eu maes llafur nhw.
"Roedd rhai i ni bwyso a mesur ynglŷn â hynny."
Mae ffigyrau'r bwrdd arholi CBAC yn dangos bod nifer y myfyrwyr sy'n astudio drama TGAU wedi gostwng o draean dros ddegawd.
Sylw ar bynciau craidd
A llynedd roedd 'na ostyngiad o 8% yn y myfyrwyr drama a'r ffigwr lawr 10% i gerddoriaeth hefyd.
Dywedodd Prif Weithredwr CBAC, Gareth Pierce bod yna ostyngiad wedi bod yn y niferoedd sy'n astudio "y rhan fwyaf o'r pynciau opsiynol" dros y degawd diwethaf.
"Yn rhai o'r pynciau mae'r gostyngiad yn fawr iawn - rhai wedi mynd lawr i'r hanner - Ffrangeg, Almaeneg a dylunio a thechnoleg ac eraill wedi mynd lawr o draean dros ddegawd," meddai.
"Felly mae hynny'n dipyn o newid o ran cydbwysedd y cwricwlwm."
Y rheswm pennaf am hynny, meddai, yw'r sylw cynyddol mae ysgolion bellach yn ei rhoi i fathemateg, Saesneg a Chymraeg yn yr amserlen.

Mae Rebecca Williams o Undeb Athrawon UCAC yn cytuno bod mwy o bwyslais ar y pynciau craidd, gan ychwanegu bod lleihad yng nghyllidebau ysgolion yn "chwarae rhan".
"Mae llawer iawn o ddiswyddiadau mewn ysgolion ar hyn o bryd ac wedyn mae athrawon pynciau lleiafrifol fel petai yn fwy tebygol o golli oriau neu hyd yn oed golli swyddi," meddai.
Ar hyn o bryd mae'r cwricwlwm newydd wrthi yn cael ei ddatblygu, ac mae Ms Williams o'r farn bod angen ystod eang o bynciau.
"Fe fydd yna bwyslais ar gelfyddydau mynegiannol sef cerddoriaeth a drama," meddai.
"Os ydyn ni yn colli arbenigedd, colli staff nawr, fe fydd yn anodd iawn i ailgydio yn y pynciau a dod o hyd i staff arbenigol eto mewn blwyddyn neu ddwy pan fydd eu hangen nhw eto."
Mae Rebecca Williams yn bryderus am y diffyg pynciau celfyddydau sydd ar gael
Mae Mr Turner yn poeni nad oes mwy o blant yn cael ennyn y sgiliau cyfathrebu a dehongli y mae astudio drama yn ei gynnig, ac ychwanegodd y gallai gael effaith ar y diwydiannau creadigol yn y pen draw.
"Un o'r oblygiadau proffesiynol yw bydd 'na lai o bobol cymwys i weithio yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru," meddai.
"Mae ystadegau'n dangos bod y diwydiannau creadigol yn elfen bwysig iawn o'n heconomi ac mewn cyfnod o wasgfa ry'n ni angen buddsoddi yn ein diwydiannau ni."