Galw am newid asesiadau 'trawmatig' budd-dal PIP
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyn-Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Stephen Crabb wedi galw am newid budd-dal anabledd arall, wythnos wedi i Lywodraeth y DU gyhoeddi newidiadau i'r system asesu budd-daliadau.
Yn ei gyfweliad cyntaf ar les ers ymddiswyddo o'r llywodraeth, dywedodd Mr Crabb wrth raglen Week In Week Out BBC Cymru bod angen gwella'r broses asesu ar gyfer Taliadau Annibyniaeth Bersonol (PIP).
Er nad yw'n gwrthwynebu'r system PIP, dywedodd Mr Crabb bod angen ei newid, gan ei ddisgrifio fel un "trawmatig" i geiswyr y budd-dal.
Dywedodd yr Adran Waith a Phensiynau bod asesiadau ar gyfer PIP yn cael eu cynnal gan "staff iechyd proffesiynol, cymwys".
'Busneslyd'
"Maen nhw [ceiswyr] yn teimlo ei fod yn asesiad busneslyd, mewnlifol - ac nid hynny dy'n ni'n ceisio ei wneud," meddai Mr Crabb.
"Mae'n rhaid i ni gael proses asesu cefnogol sy'n dod i'r penderfyniad cywir am y math o arian ac adnoddau y mae person anabl eu hangen."
Mae PIP yn fudd-dal sy'n cael ei dalu i bobl anabl i'w helpu i fyw bywyd annibynnol.
Cafodd ei gyflwyno yn 2013, ac yng Nghymru mae 150,000 o bobl wedi cael eu hasesu am y budd-dal.
Fe wnaeth Mr Crabb gael gwared ar gynlluniau i dorri budd-dal PIP yn ei amser fel Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, ac fe wnaeth ei ragflaenydd, Iain Duncan Smith ymddiswyddo dros doriadau arfaethedig yn y gyllideb ym mis Mawrth.
"Roeddwn yn meddwl ei fod yn anghywir," meddai Mr Crabb.
"Doeddwn i ddim yn fodlon camu i'r swydd a gwneud fy ngweithred gyntaf yn un o dorri cefnogaeth i bobl anabl.
"Wrth gwrs mae'n rhaid i chi gael system asesu pan dy'ch chi'n dosbarthu arian y trethdalwyr.
"Mae'n rhaid i chi gael rhyw fath o system i benderfynu pwy sydd ei angen, a phwy sydd ei angen fwyaf.
"Ond y ffordd mae wedi cael ei wneud, mae pobl yn teimlo bod y broses asesu wedi bod yn drawmatig a busneslyd, a dyna sydd yn rhaid i ni ei drwsio."
Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth Llywodraeth y DU gyhoeddi newidiadau i'r Asesiad Gallu i Weithio, sy'n cael ei ddefnyddio wrth geisio am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
Profiad ceisydd
Cafodd Judith, 67 oed o Geredigion, ei diagnosio gyda math o sglerosis ymledol 13 mlynedd yn ôl.
Roedd hi'n derbyn y budd-dal gafodd ei olynu gan PIP, Lwfans Byw i'r Anabl, am 12 mlynedd.
Ar ddechrau 2016 roedd yn rhaid iddi wneud cais am PIP, a dan y system newydd roedd hi'n derbyn £1,400 yn llai pob blwyddyn.
"Efallai nad yw hyn yn ymddangos fel llawer, ond pan does gennych chi ddim llawer i ddechrau, mae'n dipyn o wahaniaeth," meddai.
'Heb y sgiliau cywir'
Fe wnaeth y rhaglen siarad hefyd gyda nyrs sydd â 25 mlynedd o brofiad oedd yn gweithio gyda chwmni asesu Capita nes yn gynharach y flwyddyn yma.
Dywedodd bod nifer o aseswyr ddim â'r sgiliau cywir i asesu rhai anableddau.
"Mae parafeddyg yn dda iawn am wneud eu swydd, ond oes ganddyn nhw lawer o brofiad o rywun gyda sglerosis ymledol, er enghraifft?" meddai'r nyrs, sydd wedi gofyn i aros yn ddienw.
"Efallai y dylai rhywun sydd â chyflwr corfforol iawn fel sglerosis ymledol gael eu hasesu gan rywun fel therapydd galwedigaethol, neu ffisiotherapydd.
"Rhywun sydd ag anawsterau iechyd meddwl difrifol gan rywun sydd wedi'u hyfforddi yn seiciatrig - ond dyw hynny ddim yn digwydd.
"Dydych chi ddim o reidrwydd yn cael eich asesu gan rywun sy'n arbenigwyr yn eich maes o gwbl, dim ond rhywun sydd â chymhwyster proffesiynol."
'Staff cymwys'
Dywedodd Capita bod staff â'r cyfarpar a'r gefnogaeth i gynnal asesiadau, a bod hyfforddiant yn cael ei ddarparu.
Mewn datganiad, dywedodd yr Adran Gwaith a Phensiynau: "Mae asesiadau ar gyfer PIP yn cael eu cynnal gan staff iechyd proffesiynol, cymwys sy'n cyfuno eu gwybodaeth glinigol gyda dealltwriaeth o'r ffaith nad yw pawb gyda'r un anabledd yn cael eu heffeithio yn yr un ffordd.
"Mae penderfyniadau yn cael eu gwneud wedi i'r holl wybodaeth sy'n cael ei ddarparu gan y ceisydd gael ei ystyried, gan gynnwys unrhyw dystiolaeth gefnogol gan eu meddyg teulu neu arbenigwr meddygol."
Week In Week Out: Why Have My Benefits Been Cut? - BBC One Wales, 22:45 nos Fawrth.