Rhybudd wedi i faw ci beryglu iechyd plentyn yn Rhuthun
- Cyhoeddwyd
Mae cyngor yn y gogledd wedi apelio ar berchnogion cŵn i fod yn gyfrifol am glirio baw eu hanifeiliaid yn dilyn digwyddiad diweddar yn Rhuthun.
Fe wnaeth plentyn oedd yn chwarae rygbi ar Gae Ddôl yn y dref gael baw ci ar ei gorchudd dannedd, ac fe allai hynny fod wedi arwain at 'ganlyniadau iechyd difrifol' meddai Cyngor Sir Ddinbych.
Dywedodd y Cynghorydd David Smith, Aelod Cabinet Arweiniol yr Amgylchedd: "Mae diffyg pryder rhai perchnogion cŵn sy'n anwybyddu'r holl negeseuon ynghylch canlyniadau baw ci ar iechyd plant yn fy ffieiddio, ac rydw i wedi fy siomi'n arw.
"Mae baw ci yn difetha'r tirwedd ac yn un o'r prif faterion o bryder a godwyd gan breswylwyr. Mae yna hefyd risg i iechyd a lles pobl, ac mae rhai pobl wedi colli eu golwg yn rhannol neu'n gyfangwbl ar ôl dod i gysylltiad uniongyrchol â baw ci.
"Yn ffodus iawn, ni ddioddefodd y plentyn yn Rhuthun unrhyw adwaith nac effaith barhaol. Fodd bynnag, roedd yn dal yn brofiad annymunol iawn iddi hi a'i theulu, a gallai'r canlyniadau fod wedi bod yn ddifrifol iawn.
"Felly rydym ni'n annog pawb i fod yn gyfrifol a chlirio baw eu hanifeiliaid".