Metro De Cymru i gymryd degawdau i gael effaith ar gymunedau
- Cyhoeddwyd
Fe allai hi gymryd degawdau i gynlluniau i drawsnewid system trafnidiaeth de Cymru gael effaith ar rai cymunedau yn y cymoedd, yn ôl economegydd.
Dywedodd yr Athro Calvin Jones bod cynlluniau Metro De Cymru wedi codi gobeithion sy'n "anodd i'w rheoli".
Mae Llywodraeth Cymru'n credu y bydd prosiect yn "drawsnewidiol" a bydd y gwasanaethau cyntaf yn rhedeg erbyn 2023.
Ar raglen Sunday Politics Wales, dywedodd yr Athro Jones, sy'n dysgu yn Ysgol Fusnes Caerdydd, mai Caerdydd allai elwa gyntaf.
Mae Geraint Corkey yn ŵr busnes yn Nhreharris ger Merthyr Tudful, ac mae e'n gobeithio y bydd pentre'n elwa o'r system metro.
"R'yn ni'n hoffi meddwl byddai system metro gydag arhosfan yn Nhreharris yn dod â phobl mewn i'r pentre'", meddai.
"Gobeithio y byddai hynny o fudd i'r economi lleol ac yn rhoi hwb cyffredinol i'r ardal, rhywbeth sydd ei ddirfawr angen, rwy'n credu."
'Prosiect 20 mlynedd'
Ond mae'r Athro Calvin Jones yn amau y bydd ardaloedd fel Treharris yn elwa yn y tymor byr.
"Y broblem yw nad ydi pobl yn Nhreharris eisiau disgwyl yn hir," meddai.
"Mae'n brosiect 15 mlynedd, 20 mlynedd, o leiaf.
"Mae'r disgwyliadau o'r broses, rhwng y metro gloyw a realiti datblygiad cynyddol tymor hir, yn anodd iawn i'w rheoli."
Fe ddywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, wrth y rhaglen bod y llywodraeth yn gobeithio dechrau ar y gwaith adeiladu erbyn "diwedd y degawd hwn" ac y byddai'r isadeiledd yn "trawsnewid" de Cymru.
"Bydd yn cysylltu nifer o gymunedau sy'n teimlo wedi eu hynysu ar hyn o bryd, ac rwyf wedi ei gwneud hi'n glir y dylai'r Metro wasanaethau cymunedau'r cymoedd yn bennaf.
"Erbyn 2023, rydym yn gobeithio y bydd gwasanaethau Metro yn rhedeg."
Bydd £734m yn cael ei wario tan 2023 ar linellau rheilffordd y cymoedd yn rhan gyntaf y cynllun.
Yn gynharach yr wythnos hon, bu'r Prif Weinidog Carwyn Jones ym Mrwsel yn ceisio sicrhau rhan o'r cyllid ar gyfer y prosiect.