Banc Datblygu Cymru i agor y flwyddyn nesaf
- Cyhoeddwyd
Mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates wedi cyhoeddi y bydd Banc Datblygu Cymru yn cael ei lansio yn hanner cyntaf y flwyddyn nesaf.
Amcan y banc newydd fydd darparu mwy na £1biliwn o gymorth buddsoddi i fusnesau Cymru dros y pum mlynedd nesaf er mwyn i fusnesau micro gael cyllid, gwasanaethau cymorth a chyngor rheoli'n haws.
Bydd y Banc Datblygu'n creu ac yn diogelu dros 5500 o swyddi'r flwyddyn erbyn 2022 meddai'r llywodraeth.
Pencadlys yn y Gogledd
Fis diwethaf, cadarnhaodd Mr Skates ei ddymuniad i sefydlu pencadlys y Banc Datblygu yn y Gogledd.
Dywedodd Mr Skates: "Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn cynllun busnes manwl ar gyfer Banc Datblygu Cymru sy'n golygu, cyn belled ag y caiff ei gymeradwyo gan y rheoleiddwyr, y gallwn wireddu'r nod o'i lansio yn hanner cyntaf 2017. Y gobaith wedyn yw buddsoddi £80 miliwn y flwyddyn, pob blwyddyn tan 2022.
"Wrth ddatblygu'r cynllun busnes, mae Cyllid Cymru wedi ymgynghori ag amrywiaeth o bartneriaid ac wedi ystyried yr heriau ariannol sy'n wynebu busnesau yng Nghymru, hynny er mwyn medru datblygu'r atebion mwyaf priodol.
"Mae'n bwysig cofio nad nod y Banc Datblygu yw cystadlu yn erbyn darparwyr cyllid eraill. Rwyf am weithio gyda busnesau a banciau, gan ddarparu unrhyw gyllid ychwanegol sydd ei angen.
"Bydd yn adeiladu ar brofiad a llwyddiant Cyllid Cymru a fuddsoddodd dros £45m yn 2015/16 mewn busnesau yng Nghymru. Arweiniodd hynny at sbarduno bron £65m yn ychwanegol o fuddsoddi a gweld dros £110m o gyfalaf twf yn cael ei wario yn economi Cymru.
"Yn y pen draw, bydd y Banc yn rhan bwysig o'n strategaeth ar gyfer cefnogi busnesau a bydd yn ein helpu i adeiladu Cymru fwy ffyniannus a diogel."
'Esblygiad nid chwyldro"
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru, Adam Price wedi galw ar fanylion y cynllun i gael ei gyhoeddi er mwyn sicrhau "fod y balans yn iawn ac i drafod rhag ofn fod rhywbeth ar goll."
"Mae'n gam ymlaen, ond dwi ddim yn credu ei fod mor radical neu drawsnewidiol a beth y gallai fod" meddai.
Fe aeth Mr Price ymlaen i ddweud fod y syniad gan Gyllid Cymru i greu'r Banc yn "esblygiad yn hytrach na chwyldro."
Mae adolygiad a ysgrifennwyd yn 2013 gan yr arbenigwr busnes, yr Athro Dylan Jones-Evans yn amau a oedd Cyllid Cymru yn gwneud digon i helpu economi Cymru ac fe awgrymodd ffurfio banc datblygu.