Ateb y Galw: Ed Thomas
- Cyhoeddwyd
Y dramodydd, cyfarwyddwr a'r cynhyrchydd Ed Thomas sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddo gael ei enwebu gan Ed Talfan yr wythnos diwethaf.
Beth ydy dy atgof cyntaf?
Sefyll ar gownter cig siop fwtchwr fy nhad, a Mamgu yn trio gwneud i fi ganu. O'n i'n dair mlwydd oed - a ganes i ddim byd.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Lynne Burnett yn Ysgol Ynyscedwyn, Ystradgynlais - o'dd gwallt melyn mewn bun 'da hi. Exotic i grotyn wyth mlwydd oed.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Cymru yn pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Dwi'n Gymro, licio gwin coch, a dwi'n emosiynol - deadly combination yn enwedig wedi hanner nos gyda theulu a ffrindie.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Wele ateb y cwestiwn diwethaf - gan ychwanegu siarad politics wedi hanner nos.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Y cae bwys Pwll Ceffyle yn Abercraf - fues i jest â boddi yno. Ar wahân i hynny, atgofion melys iawn o blentyndod braf.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Lwcus iawn i gael nifer fawr dros y blynydde gyda ffrindie a teulu - yn cynnwys un bore yn cerdded rownd Palermo gyda hen ffrind oedd yn meddwl bo' fi'n geffyl. Ac, wrth gwrs, y nosweth y ganwyd fy merch fach, Efa.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Ystyfnig, ffyddlon, ffraeth.
Beth yw dy hoff lyfr?
Casgliad o gerddi WB Yeats - yn enwedig y gerdd The Second Coming.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Mam a Dad - fuo' nhw farw yn 2007 a 2012. Pob Nadolig yn llawn gwyddau, twrcis, siop yn llawn sŵn a chwerthin.
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?
Finding Dory!
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Dod â phawb fi'n nabod sy' 'di marw, pawb dwi wedi caru, pawb dwi dal yn caru at ei gilydd, am un parti ola' boncyrs, heb reolau a heb regrets.
Dy hoff albwm?
A Love Supreme gan John Coltrane.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - be' fyddai'r dewis?
Prif gwrs: Spaghetti Vongole fel ma' nhw'n 'neud yn syml ac yn wych yn Yr Eidal.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai o/hi?
Y boi sy'n sgorio'r winning try yn y funud ola' yn erbyn yr All Blacks, tro' nesa ni'n maeddu nhw... (dal i freuddwydio).
Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Bedwyr Williams