Cyfyngiadau'n parhau yn sgil ffliw adar ym Mhontyberem
- Cyhoeddwyd
Mae cyfyngiadau'n parhau wedi i achos o ffliw adar gael ei ddarganfod yn Sir Gaerfyrddin.
Cafodd ardal warchod o dair cilomedr ac ardal wyliadwraeth o 10 cilomedr eu cyflwyno wedi i haid o adar gyda straen H5N8 o'r clefyd gael eu canfod mewn gardd gefn.
Fe gadarnhaodd prif swyddog milfeddygol Cymru bod yr adar wedi cael eu lladd unwaith ag yr oedd swyddogion yn amau eu bod yn diodde' o'r clefyd.
Cafodd hwyaden wyllt gyda'r un straen ei darganfod yn Llanelli ym mis Rhagfyr.
Mae'r prif swyddog, Christianne Glossop, yn annog y rhai sy'n cadw adar a dofednod i "gadw at y mesurau bioddiogelwch llymaf posib".
"Hyd yn oed os yw'r adar dan do, mae'r perygl o gael eu heintio'n un byw, a dylai ceidwaid dofednod ac adar caeth eraill ofalu eu bod yn gwneud popeth posibl i rwystro'u hadar rhag dod i gysylltiad ag adar gwyllt," meddai.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Mawrth nad ydi'r straen yn berygl i'r cyhoedd.
Wrth ymateb i'r achosion diweddaraf, dywedodd Prif Swyddog Polisi undeb amaethwyr yr FUW, Dr Hazel Wright: "Mae hyn yn achos pryder i'n ffermwyr dofednod, ac i unrhyw un sy'n cadw ieir, hwyaid neu adar eraill ar lefel bychan a phreifet.
"Rydym yn annog y rheiny sy'n cadw adar i ddilyn y canllawiau gafodd eu cyhoeddi gan y prif swyddog milfeddygol."