Adroddiad yn ffafriol i gynllun morlyn Bae Abertawe

  • Cyhoeddwyd
MorlynFfynhonnell y llun, Tidal Lagoon Power

Mae adroddiad annibynnol sydd wedi ei gyhoeddi ddydd Iau yn argymell adeiladu morlyn llanw gwerth £1.3bn ym Mae Abertawe.

Dywedodd Charles Hendry, awdur yr adroddiad, y gallai morlynnoedd llanw fod yn "ddiwydiant newydd cyffrous a phwysig i'r Deyrnas Unedig".

"Ar ôl astudio'r dystiolaeth a siarad â phobl allweddol ar y ddwy ochr, fy marn i yw y dylen ni gymryd y cyfle nawr i symud 'mlaen â'r dechnoleg," meddai.

Ychwanegodd fodd bynnag y dylid aros i'r morlyn yn Abertawe gael ei adeiladu ac yna asesu ei effaith, cyn cymeradwyo prosiectau mwy mewn rhannau eraill o'r DU.

Mae gwrthwynebwyr i'r cynllun wedi mynegi pryder am ei effaith ar fywyd gwyllt a'r amgylchedd, a hefyd wedi codi amheuon a fydd yn cynnig gwerth am arian.

Ar gais Llywodraeth Prydain, fe wnaeth y cyn weinidog ynni Charles Hendry dreulio bron i flwyddyn yn astudio ymarferoldeb y cynlluniau.

Gobaith y datblygwyr yw sefydlu rhwydwaith o forlynnoedd ar hyd arfordir y DU, gan ddechrau yn Abertawe. Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu casgliadau'r adroddiad.

Cefnogaeth

Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd Ceri Davies o Gyfoeth Naturiol Cymru: "Mae datblygu ffynonellau newydd o ynni adnewyddol sydd yn lleihau niwed i'r amgylchedd yn nod yr ydym yn ei gefnogi'n llawn.

"Mae defnyddio'r llanw i greu ynni adnewyddol yn beth cymharol newydd ac mae'n beth cymleth iawn. Nid oes neb wedi casglu tystiolaeth o'r blaen am y dechnoleg yma sy'n cael ei ddefnyddio am y tro cyntaf.

"Rydym yn cydweithio'n agos gyda datblygwyr y cynllun morlyn arfaethedig yn Abertawe a gydag arbennigwyr eraill i sicrhau ein bod yn gwneud hyn yn fanwl ac yn deg."

Byddai'r cynllun ym Mae Abertawe yn cynnwys 16 o dyrbinau ar hyd morglawdd newydd, ond mae'n cael ei weld fel cynllun prawf ar gyfer cynlluniau llawer mwy.

Gallai'r rhain gynnwys safleoedd yng Nghymru ym Mae Caerdydd, Casnewydd a Bae Colwyn, ac yn Lloegr, oddi ar arfordir Cumbria a Bae Bridgwater.

Dywed Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns fod y Llywodraeth yn edrych ymlaen at astudio adroddiad Charles Hendry "a phenderfynu sut y gall lagwnau gyfrannu at anghenion ynni Cymru a gweddill y DU".

12% o ynni

Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu'r adroddiad: "Mae hyn yn amlwg yn cynnig cyfleoedd sylweddol posib i Gymru.

"Mae morlynnoedd yn cynnig cyfle i gyfrannu at ddiwydiant ffyniannus Cymreig sydd yn cynnig ffyniant tra'n cefnogi ein hamcanion di-garboneiddio ehangach.

"Rydym yn croesawu'r sylw fod achos cryf iawn dros sefydlu Morlyn Llanw Bae Abertawe fel cynllun bychan arloesol i liniaru'r tir, yn dibynnu ar dderbyn cymeradwyaeth."

Dywedodd Hugh McNeal, pennaeth Abertawe RenewableUK, y corff sy'n cynrychioli cwmnïau yn y sector ynni adnewyddol glan, fod yr adroddiad yn rhoi cymeradwyaeth i fenter Bae Abertawe.

"Nawr, dylai Llywodraeth ddod â'r broses o drafod i ben fel bod y gwaith ar yr isadeiladwaith yn gallu dechrau mor fuan â phosib."

Dadansoddiad yr gohebydd amgylchedd, Steffan Messenger

Heb os, mae'r adroddiad yn bleidlais o hyder yng ngweledigaeth y cwmni, sy'n gobeithio datblygu morlynnoedd llanw cynta'r byd.

A geiriad neges Charles Hendry i Lywodraeth Prydain yn drawiadol o glir.

Byddai bwrw ati a'r morlyn arbrofol cynta' un ym Mae Abertawe yn bolisi "na fyddai neb yn ei ddifaru" maes o law, meddai.

Ond mae 'na argymhellion na fydd Tidal Lagoon Power mor hapus i'w gweld, gan gynnwys y dylai'r cytundebau i ddatblygu unrhyw forlynnoedd eraill yn y dyfodol gael eu cynnig drwy broses tendro agored.

A dylai fod bwlch o rai blynyddoedd hefyd, medd Charles Hendry, cyn bod y gwaith o ganiatau datblygiad morlynnoedd mwy o faint yn dechrau i sicrhau nad yw'r morlynnoedd yn niweidiol i'r amgylchedd.

Bydd grwpiau amgylcheddol fel yr RSPB, yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt ac eraill yn falch o weld hynny.

Tra'u bod yn croesawi potential y morlynnoedd i gynnig ynni glan, dy'n nhw heb eu persawdio eto na fydd effaith ar fywyd gwyllt.

Mae Tidal Lagoon Power yn mynnu na fydd eu morlynnoedd yn brifo natur ac yn addo gwario miliynau i sicrhau hynny.

Ond mae'r cwmni yn dal i fod mewn trafodaethau a Chyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â'r drwydded forol sy'n rhaid iddyn nhw ei sicrhau cyn bod unrhyw waith adeiladu yn medru dechrau.

Mae 'na gryn anghydweld ynglŷn â'r effaith posib ar bysgod yn benodol.

Dwi ar ddeall fod TLP wedi cyflwyno tystiolaeth newydd i CNC a falle bydd yn rhaid i'r corff amgylcheddol gynnal ail ymgynghoriad cyhoeddus cyn cytuno ar drwydded forol.

Gallai hynny gymryd amser.

Ond gyda'r adolygiad heddi mor glir yn ei gefnogaeth, fe fydd na bwysau ar bawb sy' ynghlwm â'r prosiect - o Lywodraeth Prydain i Gyfoeth Naturiol Cymru - i ddatgan be'n union yw eu safbwynt... cyn hir.

Bwriad y cwmni yw dechrau'r gwaith adeiladu o fewn blwyddyn i gael caniatâd gan y Llywodraeth.

"Fe all lagŵn llanw cynta'r byd ym Mae Abertawe ddarparu ar gyfer ein hanghenion ynni cenedlaethol a chreu swyddi lleola am ddegawdau," meddai.

Mae Cyfeillion y Ddaear hefyd wedi croesawu'r cyhoeddiad gan ddweud y gallai lagŵn ym Mae Abertawe chwarae "rôl allweddol wrth gynhyrchu ynni glan i Gymru."

"Er hyn, mae'n bwysig bod ystyriaeth gywir yn cael ei roi i unrhyw effaith bosib ar fywyd gwyllt a'r amgylchedd cyn bod unrhyw ddatblygiad yn cael caniatâd," meddai llefarydd.

Disgrifiad,

Mae Ann MacGarry o’r Ganolfan Dechnoleg Amgen yn dweud y byddai'r morlyn llanw yn dod a llawer o fanteision i Gymru

Ond yn ôl Ymddiriedolaeth Pysgotwyr, mae'r adroddiad wedi methu ag ymchwilio yn llawn i effaith codi lagŵn o'r fath.

Dywedodd Mark Lloyd, prif weithredwr yr Ymddiriedolaeth, y dylai mwy o ystyriaeth "gael ei roi i astudio'r syniadau a thechnoleg fwy diweddar' i'r defnydd posib o ynni llawn."

Mae'r Ymddiriedolaeth hefyd yn dweud fod yr adroddiad yn gwneud eu damcaniaethau economaidd ar lagŵn fyddai'n para 120 o flynyddoedd, sef dwbl y 60 mlynedd oedd yr amcangyfrif cyntaf ar gyfer asesu'r prosiect.

Ffynhonnell y llun, Tidal Lagoon Power
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r cynllun yn defnyddio 16 o dyrbinau ar hyd morglawdd newydd

Bydd angen i'r datblygwr, Tidal Lagoon Power, ddod i gytundeb gyda Llywodraeth Prydain ynglŷn â'r cymhorthdal fydd yn cael ei dalu am drydan o'r safle.

Mae'r cwmni yn dweud y bydd Abertawe yn profi'r dechnoleg, ond yn gallu cynhyrchu hyd at 12% o ynni'r DU yn y pendraw.

Yn ôl y cwmni, bydd y safle yn cynhyrchu trydan am 120 o flynyddoedd, ac maen nhw'n ceisio am gytundeb am daliad o £89.90 i bob megawat awr (MWh).

Byddai hynny'n is na'r £92.50 i bob MWh i orsaf pŵer niwclear Hinkley C.

Pryder amgylcheddol

Mae hefyd angen trwydded forol gan y corff sy'n gyfrifol am yr amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru.

Er i dros 20 o gwmnïau annog i'r cynllun gael ei gymeradwyo yn gynharach yn yr wythnos, mae pryderon yn dal i fod am effaith amgylcheddol ar bysgod, adar a'r posibilrwydd am lifogydd.

Mae llywydd Cymdeithas, Cymdeithas Brithyll ac Eog Cymru, Rhys Llywelyn yn rhybuddio y gallai'r cynllun gael effaith andwyol ar stoc bysgod: "Ma'r niwed i bysgod a rhywogaethau eraill yn mynd i fod yn anferth, ond hefyd, os dy' chi'n edrych ar yr ochr economaidd, dyw'r syms ddim yn neud synnwyr a dweud y gwir wrthoch chi.

"Maen nhw'n son am gynllun dros 95 neu 120 o flynyddoedd, lle mewn gwirionedd, dyw'r project yma ddim yn mynd i bara 40, 30, 20 mlynedd, a byddwn ni'n cael ein gadael gyda'r peth ofnadwy yma yn llygru Bae Abertawe."