Ymchwil i gwymp 'dramatig' yn nifer aderyn prin
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwilwyr yn ceisio darganfod pam fod 'na ostyngiad "dramatig" wedi bod yn niferoedd un o adar prinnaf Ewrop sy'n dewis gaeafu yng Nghymru.
Mae'r RSPB yn amcangyfri bod poblogaeth y Gwyddau Talcen Wen o'r Ynys Las sy'n cyrraedd eu gwarchodfa yn Ynyshir, Ceredigion wedi gostwng 83% ers 1990.
Mae'r adar sy'n weddill wedi eu dal a'u tagio fel rhan o brosiect wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Daw hyn ar ôl i benderfyniad gan weinidogion ym mis Awst i beidio â chyflwyno gwaharddiad ffurfiol ar saethu'r adar achosi cryn ddadlau.
Bydd y tagiau'n galluogi symudiadau'r gwyddau i gael eu monitro, gan helpu'r elusen a phartneriaid eraill i ddeall anghenion yr adar yn well a chyflwyno mesurau cadwraethol newydd.
Y gobaith yw y bydd y prosiect yn cyfrannu at ymdrechion rhyngwladol i gynyddu niferoedd gan fod y rhywogaeth dan fygythiad.
Y gred yw mai 18,879 o wyddau Talcen Wen o'r Ynys Las sy'n weddill yn y byd - y cyfanswm isa' ers i gofnodion ddechrau ym 1985.
Mae'r adar, sy'n bridio ar Ynys Las, yn mudo yn ystod y Gwanwyn a'r Hydref drwy dde a gorllewin Gwlad yr Iâ i dreulio'r gaeaf ym Mhrydain.
Mae'r mwyafrif yn teithio i Iwerddon a Gorllewin yr Alban.
Mae'r gwyddau sy'n cyrraedd Cymru yn draddodiadol wedi treulio'r Gaeaf yng ngwarchodfa Ynyshir ar lan aber yr afon Dyfi, i'r gogledd o Aberystwyth, gyda phoblogaeth fechan iawn hefyd ar Ynys Môn.
Mae Arfon Williams, Rheolwr Cefn Gwlad RSPB Cymru, yn cofio amser "rhyw 15 i 20 o flynyddoedd 'nol pan fydda yna dros 150 o wyddau ar y safle yn Ynyshir".
Ar y diwrnod ry'n ni'n ymweld dim ond 14 maen nhw'n cyfri'.
Fe eglurodd Mr Williams nad oedd y rheswm dros y gostyngiad yn glir: "Efallai mai newid hinsawdd sy'n achosi hyn, neu ffactorau lleol..."
"Ry'n ni'n gwbod cyn lleied am y gwyddau, byddau gwell dealltwriaeth o sut maen nhw'n defnyddio'r ardal yn rhoi mwy o syniad i ni o'u hanghenion nhw".
Mae'r tagiau cyfrifiadurol wedi'u gosod ar ddau ŵydd er mwyn caniatáu i dîm o ymchwilwyr fonitro eu symudiadau 24 awr y dydd.
Ar gyfrifiadur yng nghanolfan ymwelwyr y warchodfa, mae Rheolwr y Safle Dave Anning yn fy nhywys i drwy'r hyn sydd wedi'i ddysgu o'r arbrawf hyd yma.
"Mae'r data yn anhygoel - ry'n ni wedi dysgu shwt gymaint mewn cyn lleied o amser. Yn enwedig, ry'n ni'n darganfod eu bod nhw (yr adar) yn symud o amgylch yn warchodfa lawer mwy nac oedden ni'n feddwl. Maen nhw'n defnyddio caeau ar gyfer yfed a chlwydo nad oedden ni'n sylweddoli o gwbwl o'r blaen."
Mae un aderyn wedi synnu'r ymchwilwyr drwy adael y safle a hedfan mewn un diwrnod ar draws Mor yr Iwerydd i warchodfa arall i'r gogledd o Ddulyn, cyn hedfan wedyn y diwrnod canlynol i'r de at Wexford.
Mae'r tîm yn awyddus i ddysgu mwy am y berthynas rhwng y gwyddau sy'n dewis gaeafu yn Iwerddon a Chymru a deall a ydyn nhw'n boblogaethau ar wahân neu'n rhan o'r un grŵp nol ar yr Ynys Las.
Dywedodd Meurig Rees, o Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain (BASC), un arall sydd ynghlwm â'r prosiect, fod y gostyngiad mewn niferoedd o'r gwyddau wedi bod yn "syfrdanol" ac yn arbennig o drawiadol yng Nghymru.
"Os allwn ni eu monitro nhw, helpu nhw i oroesi ein gaeaf ni, gwneud yn siŵr eu bod yn bwydo'n gywir a ddim yn cael eu tarfu - yna fe allwn ni eu hanfon nhw yn ôl o Gymru at yr Ynys Las mewn cyflwr da. Ac mae hynny yn rhoi mwy o gyfle iddyn nhw oroesi'r tymor bridio - a gobeithio maes o law y bydd y niferoedd sy'n dod 'nôl yma i Gymru yn cynyddu."
Daw hyn ar ôl i benderfyniad gan Lywodraeth Cymru i beidio cyflwyno gwaharddiad ffurfiol ar saethu'r gwyddau achosi cryn ddadlau ym mis Awst.
Dywedodd gweinidogion nad oedd ymgynghoriad cyhoeddus wedi "cynhyrchu unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod y gwyddau Talcen Wen yn cael eu saethu yng Nghymru."
Bydd gwaharddiad gwirfoddol ar dir lle mae gan glybiau saethu hawl i dargedu adar yn parhau, ac ymdrechion cadwriaethol, fel y prosiect yn Ynyshir, yn cael eu blaenoriaethu.
Ar y pryd, fe ddywedodd yr RSPB bod y penderfyniad yn un "gwarthus".