Nicole Cooke: 'Seiclo yn cael ei redeg gan y dynion'

  • Cyhoeddwyd
Nicole CookeFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Fe enillodd Nicole Cooke fedal aur yn ras ffordd y merched yng Ngemau Olympaidd Beijing 2008

Mae Nicole Cooke wedi cyhuddo British Cycling o gael ei redeg "gan ddynion ar gyfer dynion", gan godi cwestiynau hefyd am ymdrechion y corff wrth daclo'r defnydd o gyffuriau angyfreithlon.

Fe wnaeth Cooke, 33, ei sylwadau mewn datganiad ysgrifenedig wrth Bwyllgor Dethol Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon San Steffan ddydd Mawrth.

Cafodd sesiwn ei gynnal i drafod materion oedd wedi codi mewn gwrandawiad oedd yn cynnwys Seiclo Prydain a thîm seiclo Sky fis diwethaf.

Dywedodd y feicrwaig o Gymru bod British Cycling yn dangos "ffafriaeth ac anffafriaeth" oherwydd eu bod yn "atebol iddyn nhw eu hunain".

Ychwanegodd y cyn-bencapwraig Olympaidd fod y "bobl anghywir yn ymladd y frwydr anghywir, yn y ffordd anghywir, gyda'r arfau anghywir" wrth geisio taclo cyffuriau o fewn y gamp.

Ar hyn o bryd mae UK Anti-Doping, y corff sydd yn gyfrifol am daclo cyffuriau o fewn chwaraeon ym Mhrydain, yn ymchwilio i British Cycling yn dilyn honiadau o dorri rheolau o fewn y gamp.

Mae'r corff sydd yn gyfrifol am seiclo yn y DU hefyd yn aros i glywed canfyddiadau adolygiad annibynnol yn edrych ar honiadau o ddiwylliant bwlio.

Daeth hynny wedi i'r cyn-gyfarwyddwr technegol Shane Sutton gael ei ganfod yn euog o ddefnyddio iaith rywiaethol tuag at y feicwraig Jess Varnish - cafodd wyth cyhuddiad arall yn ei erbyn eu gwrthod.