Galw i beidio symud arian o'r Gymraeg i'r Egin

  • Cyhoeddwyd
Yr EginFfynhonnell y llun, PCDDS

Mae mudiad iaith yn galw ar i Lywodraeth Cymru beidio â gwario'r un geiniog o arian ei hadran Gymraeg ar adeilad Yr Egin yng Nghaerfyrddin.

Bydd pencadlys newydd S4C wedi ei leoli o fewn yr adeilad, sy'n cael ei ddatblygu gan Brifysgol y Drindod Dewi Sant.

Mae Dyfodol i'r Iaith yn honni bod y llywodraeth yn ystyried cyfrannu at yr adeilad o gyllid Gweinidog y Gymraeg, ac mae'r mudiad am weld yr arian yn cael ei gadw at brosiectau sy'n hyrwyddo'r Gymraeg.

Mewn datganiad mae'r llywodraeth yn dweud nad oes unrhyw benderfyniad wedi ei wneud.

'Ar fympwy'

Ar raglen y Post Cyntaf BBC Radio Cymru fore Gwener dywedodd Prif Weithredwr Dyfodol i'r Iaith Ruth Richards: "Mae angen gwarchod arian sydd wedi ei glustnodi ar gyfer y Gymraeg, ac mae angen gwneud hynny am fod yna gymaint i'w wneud.

"Mae'r llywodraeth ei hun gyda strategaeth y Gymraeg uchelgeisiol iawn, ac felly da ni'n codi'r mater yma fel mater o reidrwydd, fod yr arian yma yn cael ei warchod, a bod yna ddim cynsail yn cael ei osod, fod hwn yn bot o arian mae modd ei ail gyfeirio ar fympwy.

"Mae rhaid i'r arian yma gael ei glustnodi yn uniongyrchol tuag at hyrwyddo'r Gymraeg."

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ar hyn o bryd nid oes unrhyw benderfyniad wedi cael ei wneud am gymorth.

"Bydd unrhyw gymorth gan Lywodraeth Cymru yn dibynnu ar achos busnes manwl a chymhellol sy'n mynegi tystiolaeth o'r manteision economaidd, diwylliannol ac ieithyddol y datblygiad ac yn dangos pam mae angen arian o'r sector cyhoeddus i gyflawni."

Mae BBC Cymru wedi gofyn i Brifysgol y Drindod Dewi Sant am ymateb. Doedd S4C ddim am wneud sylw.