Deryn mwya'r Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Mamiaith Unesco fe siaradon ni gyda'r dyn sydd wedi ei goroni yn drydarwr mwyaf cynhyrchiol y Gymraeg.
Yn ôl gwefan Indigenous Tweets, dolen allanol, sy'n mesur trydariadau mewn gwahanol ieithoedd brodorol, Ant Evans (@Ant1988) yw'r unigolyn sydd wedi trydar y nifer fwyaf o negeseuon yn Gymraeg ar wefan Twitter.
Mae wedi sgrifennu 34,499 o negeseuon yn yr iaith hyd yma - mwy na Radio Cymru ac S4C, a mwy na Dyl Mei a Rhys Mwyn efo'i gilydd hyd yn oed!
Roedd hyn yn newydd i Ant Evans pan godon ni'r ffôn am sgwrs: "Mae hynny yn dipyn o sioc imi mae rhaid cyfaddef!" meddai.
Ond nid hap a damwain sy'n gyfrifol chwaith. Mae Ant yn sgrifennu yn Gymraeg yn fwriadol er mwyn codi proffil yr iaith ac annog dysgwyr, meddai, rhywbeth mae'n credu y dylai pob siaradwr Cymraeg ei wneud.
"Dwi wedi ceisio sgwennu yn y Gymraeg yn unig gymaint â phosib. Pan dwi'n sgwennu ar Twitter a sgwennu er fy mwyn fy hun, sgwennu yn Gymraeg fydda i ac mi ydw i'n ymateb i gryn dipyn o'r hyn sydd wedi cael ei sgrifennu yn Gymraeg.
"Dwi'n credu'n eitha' cryf bod eisiau defnyddio cymaint o Gymraeg â phosib i godi proffil yr iaith ac annog dysgwyr."
'Truenus'
Mae Ant yn blogio o bryd i'w gilydd hefyd: "Y syniad tu ôl i hynny, fel trydar yn Gymraeg, ydy rhoi llwyfan neu blatfform i'r Gymraeg fel bod pobl yn gallu bod yn ymwybodol o'r Gymraeg.
"Sylweddolais yn ddiweddar bod gymaint o ddysgwyr yn fy nilyn i ar Twitter, felly dwi'n gobeithio fy mod i o gymorth iddyn nhw hefyd.
"Yn sicr dylai siaradwyr Cymraeg wneud mwy i godi proffil yr iaith," meddai Ant.
"Dwi di gweld ar Facebook gymaint o ffrindiau a pherthnasau sy'n dueddol o gadw at y Saesneg er mwyn cadw petha'n syml a dwi'n meddwl bod hynny'n druenus o beth a dweud y gwir.
"Dwi'n gweld pobl sy'n medru'r Gymraeg ar Facebook yn cyfathrebu gyda'i gilydd yn Saesneg, a dwi'n meddwl pam gwneud hynny? Dwi ddim yn cweit yn deall. "
Nid Cymraeg a Saesneg yw'r unig ieithoedd sydd gan Ant i ddewis ohonyn nhw.
Mae'n rhugl mewn Ffrangeg ac astudiodd dipyn o Sbaeneg ac Eidaleg yn y brifysgol cyn mynd ymlaen i wneud gradd MA mewn polisi a chynllunio ieithyddol. Dysgodd Lydaweg hefyd ar ei liwt ei hun.
Mae'n trydar ac ymateb ar y we yn yr ieithoedd hynny'n gyson hefyd.
'Yr unig un rhugl'
Mae stori Ant ei hun yn dangos mor fregus yw'r Gymraeg yn ogystal â maint yr her sy'n wynebu Llywodraeth Cymru yn eu hymgyrch i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg.
Wedi ei fagu yn Harlech mewn teulu lle roedd y ddwy iaith ar yr aelwyd Ant yw'r unig un o dri brawd ac un chwaer sy'n siarad Cymraeg yn rhugl, er iddyn nhw i gyd fod drwy system addysg Gwynedd.
"Er ein bod wedi cael yr un magwraeth a'r un teulu gynnon ni, dim ond y fi sy'n rhugl yn y ddwy iaith," meddai.
"Mae'r lleill i gyd yn uniaith Saesneg. Dwi ddim cweit yn deall pam ..."
Daw tad Ant o Loegr, felly roedd cryn dipyn o Saesneg yn y cartref, er fod y Gymraeg yn "bresenoldeb eitha' cyson pan oni yn ifanc o leiaf," meddai.
Aeth y plant i gyd i Ysgol Ardudwy, Harlech, sef ysgol gymunedol naturiol ddwyieithog.
"Yn ôl polisi iaith Gwynedd wrth gwrs mae disgwyl i bob disgybl sydd wedi mynd drwy ysgolion y sir i ddarfod eu haddysg nhw yn berffaith ddwyieithog erbyn iddyn nhw adael.
"Mae gymaint o rieni - a ma' hyn yn digwydd o fewn fy nheulu i - sydd yn medru'r Gymraeg ond yn siarad Saeneg efo'r plant gan feddwl y gwneith y plant ddysgu'r Gymraeg yn yr ysgol.
"Ond na, nid lle'r ysgol mewn ardal Gymraeg ydy sicrhau bod plant yn siarad y Gymraeg, lle'r rhieni ydy sicrhau hynny.
"Efo'r bobl dwi'n nabod lle mae'n nhw wedi magu eu plant i siarad Saesneg mae safon eu Cymraeg nhw gymaint yn well na safon eu Saesneg, dyna sy'n gwneud y peth gymaint mwy dryslyd i fi!
"Maen nhw'n trosglwyddo Saesneg gwael yn hytrach na Chymraeg rhugl i'w plant!"
Gwefannau cymdeithasol yn help i'r iaith?
Yn ôl arolwg gan gwmni Beaufort yn 2013 ar ddefnydd iaith siaradwyr Cymraeg yn eu bywyd bob dydd ychydig dros un o bob chwech o siaradwyr Cymraeg, 16%, oedd yn defnyddio Twitter yn rheolaidd, ac o'r rhain 8% oedd yn ei ddefnyddio drwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf er fod y canran yn uwch ymhlith pobl ifanc.
Ac er mai Ant ydi'r trydarwr mwyaf cynhyrchiol yn Gymraeg, mae'n trydar llawer mwy yn ei bum iaith arall - 29% o'i negeseon sydd yn y Gymraeg.
Ond dywedodd Dr Llion Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr, sef y ganolfan gwasanaethau, technoleg ac ymchwil Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor, ei fod yn credu bod mwy yn ysgrifennu yn Gymraeg yn rheolaidd yn sgil datblygiad y cyfryngau cymdeithasol.
"Mae datblygiad llwyfannau fel Twitter, ac yn fwy diweddar Snapchat, yn golygu fod pobl na fyddai yn y gorffennol wedi gwneud hynny fel rheol, rŵan yn ysgrifennu yn Gymraeg," meddai.
"Mae'r ffaith fod y cyfryngau hyn mor hawdd i'w defnyddio yn help hefyd."
Mae Ant hefyd yn meddwl bod mwy o bobl yn defnyddio'r Gymraeg ar Twitter heddiw, er efallai nad yw'r ganran wedi newid: "Wrth i'r nifer sy'n trydar gynyddu mae'r nifer sy'n bwrw ati i wneud yn Gymraeg wedi cynyddu yr un pryd.
"Dwi'n sylwi bod gymaint o bobl sy'n dysgu'r iaith yn defnyddio trydar fel modd o gynyddu eu hyder wrth ysgrifennu'r Gymraeg a dysgu'r iaith wrth ddilyn siaradwyr Cymraeg fel fi, sy'n gyndyn iawn i ddefnyddio Saesneg - mae'n siŵr fod hynny'n fantais iddyn nhw wrth ddysgu'r Gymraeg."
Mae Ant yn gweld diffyg hyder fel un rheswm dros y ffaith fod rhai Cymry Cymraeg yn tueddu i beidio defnyddio'r iaith ar wefannau cymdeithasol ond beth yw'r ateb?
"Dwi ddim yn gwybod sut i newid y sefyllfa, oherwydd mae na gymaint o bobl hefyd sydd i'w gweld yn elyniaethus i'r Gymraeg.
"Gyda Facebook, sgwennu'n ddwyieithog fydda' i er mwyn peidio pechu neb ond fyse'n well gen i bod pobl dwi'n nabod yn sgwennu ar Facebook yn ddwyieithog hyd yn oed, os nad y Gymraeg, yn hytrach na gwneud yn uniaith Saesneg.
"Dwi'n meddwl bod hynny'n gam i'r cyfeiriad cywir i hybu'r ddwy iaith ar y cyd yn hytrach na dim ond y Saesneg."