Cyhoeddi Loteri newydd i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Loteri CymruFfynhonnell y llun, Loteri Cymru

Mae Cymru i gael ei loteri wythnosol ei hun gyda jacpot wythnosol o £25,000 gyda'r enillion yn mynd i achosion cymunedol.

Fe fydd tocynnau yn mynd ar werth am £1 yr un o ddydd Llun 10 Ebrill, a'r rhifau cyntaf yn cael eu tynnu nos Wener 28 Ebrill.

Er mwyn ennill y jacpot bydd yn rhaid dewis 5 rhif cywir o 39.

Bydd gwobrau llai hefyd ar gael i'r sawl sy'n cael rhai o'r rhifau'n gywir.

Fe fydd o leiaf 20% o enillion gwerthiant tocynnau Loteri Cymru ar gyfer achosion da.

Yn ôl y trefnwyr mae gan chwaraewyr siawns well nag un mewn naw o ennill gwobr.

Achosion lleol

Loteri Cymru sy'n rhedeg y gystadleuaeth fydd yn cael ei darlledu ar S4C am 20:00 bob nos Wener.

Bydd hawl gan bawb dros 16 oed i brynu tocyn.

Cadeirydd Loteri Cymru yw Gareth Davies, Cadeirydd presennol Undeb Rygbi Cymru.

"Mae ein hymchwil wedi dangos bod pobl wir yn hoffi'r syniad o loteri unswydd i Gymru gydag achosion lleol yn elwa," meddai Mr Davies.

"Rydyn ni am i Loteri Cymru fod yn rhan o fywyd y Cymry, cyn gynted â phosib, lle y bydd pawb yng Nghymru yn nabod rhywun sydd wedi ennill gwobr neu'n gwybod am achos da sydd wedi elwa."