Prif weithredwr GIG Cymru'n canmol gwelliant cyson
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwasanaeth iechyd yn gweithredu mewn "diwylliant o welliannau cyson a chynaliadwy" er gwaetha'r pwysau arno, medd pennaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.
Roedd Dr Andrew Goodall yn cyflwyno'i adroddiad blynyddol, sy'n edrych nôl ar heriau a gwelliannau'r flwyddyn aeth heibio.
Gwrthododd y syniad - a wyntyllwyd gan y pennaeth cyfatebol yn Lloegr - y gallai amseroedd aros am lawdriniaethau gael eu gadael yn hirach fel cyfnewid am ofal cyflymach am ganser neu mewn adrannau brys.
Yn hytrach, dywedodd Dr Goodall y byddai'r GIG yng Nghymru yn ceisio parhau i "wneud gwelliannau ar draws y bwrdd".
'Gwelliant'
Mae'r GIG yng Nghymru wedi cael ei feirniadu am berfformiad gwael o safbwynt amseroedd aros.
Ond dywedodd Dr Goodall wrth BBC Cymru bod "gwelliant mawr" wedi bod gan gynnwys cwymp o 80% mewn amseroedd aros am ddiagnosis dros y ddwy flynedd diwethaf.
Er hynny ychwanegodd Dr Goodall: "Rwyf am herio'r GIG i barhau i wella."
Dywedodd y dylai safon y gofal y gall cleifion ei ddisgwyl fod yn union yr un fath ar draws Cymru.
"Dyw hi ddim yn gyfrinach bod y GIG - gan gynnwys y GIG yng Nghymru - yn wynebu pwysau parhaus ar wasanaethau ac yn ariannol," meddai'r prif weithredwr.
"Cyfunwch hynny gyda'r newyddion da bod mwy ohonom yn byw yn hirach - er bod hynny gyda llawer yn diodde' cyflyrau cronig - ac mae hynny'n dangos bod angen newid sylfaenol yn y modd rydyn ni'n gwneud pethau er mwyn ateb y galw dros y blynyddoedd nesaf.
"Wrth ailgynllunio ffyrdd o ddarparu gwasanaethau yn well ac yn fwy cynaliadwy rhaid i ni beidio anghofio nad yw un ateb yn gweddu i bawb... er enghraifft wrth i ni ddarparu gofal iechyd mewn ardaloedd gwledig iawn, a'n hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg a Saesneg."
Ymhlith y gwelliannau, canolbwyntiodd ar berfformiad y gwasanaeth ambiwlans ynghyd â 150 o staff newydd yn cael eu recriwtio i gefnogi gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc.
Fe wnaeth Dr Goodall hefyd ganmol llawdriniaeth blastig sy'n golygu nad yw 70% o gleifion â lymphoedema yn gorfod gwisgo dillad cywasgu. Mae'r cyflwr ar y system lymffatig - sy'n golygu chwyddo cronig o rannau o'r corff - yn effeithio ar oddeutu 4,000 o bobl yng Nghymru.