Cynghrair y Pencampwyr: Caerdydd yn 'brysurach nag erioed'
- Cyhoeddwyd
Bydd Caerdydd "yn brysurach nag erioed" wrth i rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr gael ei chynnal yn y ddinas ar 3 Mehefin.
Fe fydd hyd at 170,000 o gefnogwyr yn teithio i'r ddinas ar gyfer digwyddiad chwaraeon mwyaf y byd yn 2017.
Bydd nifer o ffyrdd ar gau oherwydd rhesymau diogelwch ac i helpu rheoli'r ymwelwyr fydd yng nghanol y ddinas.
Yn un o'r digwyddiadau lansio ddydd Gwener dywedwyd y byddai 1,500 o heddweision yn plismona ar y diwrnod.
Mesurau gwrth-derfysgaeth
Wrth annerch y wasg dywedodd yr Uwcharolygydd Steve Furnham, sy'n arwain y paratoadau, bod y ffeinal "yn wahanol i unrhyw beth rydyn ni wedi delio ag o o'r blaen".
Dywedodd bod "y byd wedi newid" ers y cyhoeddiad mai Caerdydd fydd yn cynnal y digwyddiad.
Ychwanegodd y byddai "newidiadau sylweddol" o amgylch y ddinas, ac y byddai mesurau gwrth-derfysgaeth hefyd mewn grym.
Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru y bydd meysydd awyr, trenau a ffyrdd yn brysurach nag arfer, hyd yn oed mewn llefydd mor bell â Llundain a Birmingham.
Mae rhagor o drenau a bysiau yn cael eu cyflwyno hefyd, a bydd newidiadau i wasanaethau trafnidiaeth leol.
Fe wnaeth y gymdeithas hefyd annog pobl i beidio â theithio i Gaerdydd os nad oes angen.
'Rhwystrau iaith'
Ni fyddwn yn gwybod pwy fydd yn cystadlu yn y rownd derfynol nes pythefnos cyn y digwyddiad, a dywedodd yr heddlu y byddai eu cynlluniau yn newid yn ddibynnol ar y ddau dîm fydd yn y ffeinal.
"Ni fydd hwn fel digwyddiadau arferol fel y rygbi," meddai'r Uwcharolygydd Furnham.
"Bydd 95% o'r cefnogwyr yma am y tro cyntaf, ac os mai dau dîm cyfandirol fydd yno bydd rhwystrau iaith hefyd."
Rownd derfynol Cwpan y Pencampwyr fydd digwyddiad chwaraeon mwya'r byd yn 2017, gyda disgwyl i tua 200 miliwn o bobl ei wylio yn fyw ar draws y byd.
Mae disgwyl i'r digwyddiad hefyd fod yn hwb ariannol o £45m i ardal Caerdydd - y ddinas leiaf erioed i gynnal y gêm.
Bydd Stadiwm Principality hefyd yn newid ei enw i Stadiwm Cenedlaethol Cymru ar gyfer y digwyddiad oherwydd cytundeb gyda noddwyr y gystadleuaeth.
Gŵyl yn y Bae
Bydd Gŵyl y Pencampwyr UEFA yn cael ei chynnal ym Mae Caerdydd hefyd o ddydd Iau, 1 Mehefin, nes ddydd Sul, 4 Mehefin.
Fe fydd atyniadau'r ŵyl yn cynnwys cae pump-bob-ochr ar ddŵr y Bae, amgueddfa bêl-droed ac adloniant byw.
Un o'r uchafbwyntiau fydd gweld enwogion y gorffennol yn chwarae yng ngêm Pencampwyr Pennaf UEFA ar y dydd Gwener.