Dangosiad cyntaf ffilm 'Their Finest' yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Bydd ffilm gafodd ei saethu yng Nghymru gan fwyaf yn cael ei dangos am y tro cyntaf yng Nghaerdydd nos Fawrth, 18 Ebrill.
Mae disgwyl i'r actor Bill Nighy fod ymhlith y gwesteion ar y carped coch pan fydd 'Their Finest' - comedi rhamantus sydd wedi'i gosod yn ystod yr Ail Ryfel Byd - yn cael ei dangos yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Mae'r ffilm yn adrodd hanes ffilm ddychmygol arall am Dunkirk sy'n cael ei gwneud er mwyn codi ysbryd Prydain yn ystod y blitz.
Cafodd y rhan fwyaf o 'Their Finest' ei saethu yng Nghymru, gan gynnwys Neuadd y Ddinas, Abertawe.

Mae disgwyl i Bill Nighy fod yn y dangosiad
Cafodd golygfeydd eraill eu gwneud yn harbwr Porthgain, sinema'r Palas yn Hwlffordd a Threcŵn - i gyd yn Sir Benfro.
Ymhlith sêr eraill y ffilm mae Gemma Arterton, Richard E Grant a Jeremy Irons.

Mae Gemma Arterton hefyd yn un o sêr y fflim
Dywedodd Hannah Raybould, cyfarwyddwr BAFTA Cymru: "Mae'n bleser cael cynnal y digwyddiad yma i ddathlu ffilm gafodd ei saethu yng Nghymru, gan griw o Gymru, ac sy'n dangos golygfeydd godidog Cymru gyda chast sy'n llawn sêr.
"Bydd y digwyddiad yn un o uchafbwyntiau ein dyddiadur, ac mae'n bleser medru cynnig i'n haelodau gael bod ymysg y cyntaf i weld y ffilm."
Cafodd y ffilm arian gan Lywodraeth Cymru ochr yn ochr â BBC Films a Grŵp Pinewood, a bydd y premiere yn cael ei gynnal gan BAFTA Cymru a Llywodraeth Cymru.
Yn dilyn y dangosiad bydd cynhyrchydd y ffilm, Amanda Posey, awdur y sgript Gaby Chiappe a Lissa Evans, awdur y llyfr gwreiddiol 'Their Finest Hour and a Half' yn siarad gyda'r gynulleidfa.
Bydd 'Their Finest' yn cyrraedd sinemâu ar draws y wlad ar 21 Ebrill.