Llawdriniaeth i fachgen ar ôl dwy flynedd o aros

  • Cyhoeddwyd
Ethan Matthews
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n amhosib i Ethan fwynhau bywyd llawn gyda'i ffrindiau

Mae bachgen 14 oed o Sir Gaerfyrddin sydd wedi bod aros dwy flynedd a hanner am lawdriniaeth aren wedi clywed y bydd yn cael triniaeth fis nesaf.

Roedd rhieni Ethan Matthews o Borth Tywyn wedi dweud fod yr oedi cyn cael llawdriniaeth i dynnu aren ddiffygiol yn "hollol annerbyniol".

Maen nhw nawr yn dweud eu bod "wrth eu bodd" y bydd eu mab yn gallu cael y driniaeth ac yna "symud ymlaen gyda'i fywyd fel unrhyw berson ifanc arall".

Mae disgwyl iddo gael y llawdriniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru ar 17 Mai.

'Blynyddoedd gorau'ch bywyd'

Dywedodd ei dad, Robert Matthews eu bod wedi methu galwad gan yr ysbyty ddydd Llun, a phan ffonion nhw nôl ddydd Mawrth cawson nhw wybod am ddyddiad y llawdriniaeth.

"Rydyn ni wrth ein bodd. Roedd Ethan yn falch iawn, yn hapus iawn am y peth," meddai.

"Allwn ni ddim aros - rydyn ni wedi cael amser mro galed dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf.

"Allwn ni ddim aros i weld e'n digwydd fel bod Ethan yn gallu symud 'mlaen gyda'i fywyd a bod fel unrhyw fachgen arall yn ei arddegau.

"Pan chi'n fachgen ifanc dyna rai o flynyddoedd gorau'ch bywyd, mae e'n methu mas ar gymaint. Fe gaiff e fywyd hollol normal gydag un aren, mae e jyst angen tynnu un mas."

'Clywed dim'

Pan gafodd Ethan wybod ym mis Rhagfyr 2014 fod angen tynnu aren ddifygiol oedd ganddo cafodd ei gyfeirio at Ysbyty Athrofaol Caerdydd a'i roi ar "restr aros frys".

Ond yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, dyw hi ddim wastad yn bosib rhoi llawdriniaeth ar amser penodedig.

Roedd y driniaeth i fod i ddigwydd ym mis Ionawr eleni, ond bu'n rhaid ei chanslo gan fod Ethan yn dioddef o anhwylder wrin.

Dywedodd rhieni Ethan, Robert a Kerry Matthews eu bod wedi clywed dim ers hynny a'u bod yn poeni y bydd problemau iechyd Ethan yn cael effaith ar ei addysg.

Ar hyn o bryd mae gan Ethan bibell arbennig yn ei ochr i gael gwared â hylif, ac mae'n ymweld â'i feddyg dair gwaith yr wythnos er mwyn newid gorchudd.

Nid yw'n bosib iddo gymryd rhan mewn chwaraeon sy'n gofyn am gysylltiad corfforol ac nid yw chwaith yn gallu mynd i nofio.

Disgrifiad o’r llun,

Mae salwch Ethan yn cael "effaith fawr ar ein bywyd", medd ei dad Robert Matthews

Yn gynharach roedd Mrs Matthews wedi dweud wrth BBC Cymru: "Mae gweld eich mab yn gorfod aros mor hir am driniaeth yn anodd.

"Dyw e ddim yn gallu mwynhau yr un bywyd â'i ffrindiau."

Ychwanegodd ei dad: "Mae'r cyfan yn cael effaith fawr ar ein bywyd.

"Ry'n ni'n ffonio Caerdydd yn gyson, ry'n wedi ymweld â'n meddygon teulu ac maen nhw wedi ysgrifennu llythyr, ry'n wedi gofyn i'n haelod cynulliad ysgrifennu ac ry'n yn cael yr un ateb o hyd.

"Rydyn ni wedi cyrraedd pen ein tennyn."

'Cywilyddus'

Yn ôl Dr Dewi Evans, paediatregydd ymgynghorol sydd â 30 mlynedd o brofiad yn y maes, mae'r oedi yn "gywilyddus" a dylai Ysbyty Athrofaol Cymru fod wedi talu i ysbyty arall i wneud y llawdriniaeth.

"Mae hyn yn warthus," ychwanegodd, "Ni ddylai neb aros dwy flynedd a hanner am lawdriniaeth."

Mewn llythyr at Aelod Cynulliad y teulu ym Medi 2016, fe ddywedodd prif weithredwr y bwrdd iechyd ar y pryd, Adam Cairns, nad oedd hi'n bosib rhoi blaenoriaeth i Ethan gan fod cleifion eraill â chyflyrau gwaeth oedd yn achosi dirywiad.

Roedd Mr Cairns yn cydnabod bod y rhestr yn hwy na'r hyn a ddylai fod.

'Darlun llawn'

Yn ôl llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, dyw hi ddim yn bosib gwneud sylw ar achosion annibynnol.

Ond gydag achosion fel hyn maen nhw'n dweud eu bod yn edrych ar y darlun llawn, ac weithiau dyw hi ddim yn bosib cynnal llawdriniaeth ar yr amser penodedig gan ei fod yn dioddef o salwch felly mae'n rhaid gohirio.

Ychwanegodd bod nifer o ffactorau yn gyfrifol am yr oedi mewn llawdriniaeth ond "gallwn gadarnhau bod lle mae'r claf yn byw ddim i'w wneud gydag unrhyw benderfyniad."