Bathu geiriau yn y Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Roedd 'na gais arbennig gan fachgen ysgol ar Raglen Aled Hughes, Radio Cymru, fore Mercher - beth ydy'r gair Cymraeg am 'cliffhanger'?
Wedi i Elgan o Gerrigydrudion holi'r cwestiwn roedd pawb ar ymyl eu seddi eisiau gwybod, ond daeth yn amlwg nad oes gair penodol am y term yn Gymraeg... tan rŵan.
Ar ôl i'r awdures Manon Steffan Ross awgrymu bod angen bathu gair newydd daeth cynigion gan wrandawyr Radio Cymru a defnyddwyr Twitter - 'clo crog', 'clo clogwyn', 'diwedd ymyl dibyn' a 'clo syfrdan'.
Y cynnig gafodd ei ddewis gan Elgan oedd 'clo crog'.
Mae gan Radio Cymru a'i wrandawyr hanes hir o fathu geiriau Cymraeg.
Hywel Gwynfryn fathodd y term 'hysbýs' yn nyddiau cynnar yr orsaf.
Baglu dros y gair 'hysbysebion' wnaeth o yn wreiddiol, meddai Hywel Gwynfryn, gyda chynhyrchydd y rhaglen, Gareth Lloyd-Wiliams, yn awgrymu ei fod yn gwneud y gair yn llai.
Felly dyma Hywel yn ei dorri i 'hysbýs'.
"Mae'n swnio'n slic achos mae dau hanner y gair yn odli - hys-býs," meddai Hywel.
"Yn y dyddiau cynnar, cyn Radio Cymru, yn 1968, ro'n i'n gwneud rhaglen Helo Sut Dach Chi? ac wedi bathu gair oedd yn gyfuniad o 'pethma' a 'bendigedig' - 'Bomdibethma' - sef ryw fath o air Cymraeg am 'fantastic'.
"Dwi'n meddwl mai'r rhaglen yna hefyd oedd y gyntaf i ddweud 'hwyl a fflag'.
"Roeddan ni'n trïo cael iaith ystwyth, slic. Ni fathodd yr ymadrodd 'y dyn ei hun' hefyd - roeddan ni'n defnyddio lot o hwnnw a chyfarchion fel 'llond beudy o gofion' at rywun oedd yn byw ar fferm neu 'llond berfa o gofion' i rywun oedd yn garddio.
"Roeddan ni'n trïo creu ryw fath o ieithwedd slic yn y Gymraeg ond heb droi i'r Saesneg. Dyna oedd y sialens."
Roedd Hywel yn gofyn i'w wrandawyr yn gyson ar ei raglen Helo Bobol yn y 70au a'r 80au i ddyfeisio geiriau Cymraeg newydd am declynnau neu syniadau newydd.
"Dwi'n cofio cystadleuaeth ar Helo Bobol i fathu term am 'safety belt' a'r un enillodd oedd 'gwregys diogelwch'.
"Cystadleuaeth arall oedd gair Cymraeg am 'jogging' - a dyna lle ddaeth y gair 'loncian' - addasiad o rywun yn mynd ling-di-long."
Mae'r cyfryngau yn naturiol ar flaen y gad o ran bathu geiriau Cymraeg.
"Yn aml, newyddiadurwyr a chyfieithwyr yw'r bobl gyntaf i orfod trafod rhywbeth yn Gymraeg - boed yn ddatblygiadau arloesol mewn gwyddoniaeth neu mewn chwaraeon, a gall hyn greu panics llwyr," meddai Dr Tegau Andrews sy'n derminolegydd yn Uned Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor.
"Mae'n rhaid iddyn nhw ddod o hyd i air Cymraeg cyfatebol a hynny yn aml pan nad oes 'gair safonol' ar gael."
Yn ôl Dr Andrews mae'r Corff Safonau Rhyngwladol (ISO) yn creu safonau ynglŷn â thermau dros y byd.
Un o'r rheolau rhyngwladol yw y dylai grŵp o bobl gydweithio i fathu a safoni termau: cymysgedd o bobl sy'n arbenigwyr ar y maes a phobl sy'n arbenigo mewn iaith ac sy'n deall y rheolau rhyngwladol.
Ond y cyhoedd sydd â'r prif ddylanwad ar ba air sy'n ennill ei blwy', meddai Dr Andrews.
"Weithiau, mae term technegol yn codi mewn trafodaeth gan y cyhoedd - mewn blogiau, ar Twitter, ar Facebook, yn y newyddion - fel arfer, mae'n derm o fyd technoleg gwybodaeth neu chwaraeon.
"Mewn sefyllfa fel hyn, mae'r gair mae'r cyhoedd yn ei ddefnyddio yn dylanwadu'n naturiol ar yr hyn sy'n cael ei bennu'n derm safonol."
Mae 'hunlun' yn enghraifft arall o air sydd wedi dod i fewn i eirfa bob dydd o gael ei ddefnyddio'n gyson ar y cyfryngau.
Ond mae 'nodyn bodyn', oedd yn cael ei ddefnyddio am gyfnod ar Radio Cymru yn nechrau'r 2000au, yn enghraifft o derm wnaeth ddim cydio.
Y dewis torfol am 'text message' erbyn hyn ydy'r term symlach, 'neges destun'.
Geirfa'r Rhyfel
Roedd bathu geiriau yn digwydd cyn dyddiau Radio Cymru ac S4C gyda darlledwyr Cymraeg yn gorfod dyfeisio geiriau newydd fel mater o raid.
Ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd, anfonwyd rhai o staff y BBC yng Nghymru i fyw yn Llundain i ddarlledu cyhoeddiadau ar ran y Weinyddiaeth Hysbyrwydd a chyfieithu bwletinau newyddion.
Roedd angen bathu termau newydd technegol yn feunyddiol yn ôl R Alun Evans yn ei lyfr am fywyd a gwaith Sam Jones, 'Stand By!'.
Anodd credu mai dyma pryd gafodd y gair 'awyren' ei ddefnyddio yn gyntaf am 'aeroplane', a hynny gan y bardd Alun Llywelyn-Williams oedd ymhlith y staff Cymraeg yn Llundain ar y pryd, meddai R Alun Williams.
Mae termau chwaraeon yn gallu rhoi cur pen i newyddiadurwyr a sylwebwyr hefyd, gyda rheolau, campau ac elfennau newydd yn dod i'r fei'n rheolaidd.
Un a arloesodd ym maes termau rygbi Cymraeg oedd y sylwebydd Eic Davies a greodd eirfa Gymraeg, gyda help Carwyn James, fel 'cais', 'maswr', 'bachwr' a 'trosiad' sy'n gyfarwydd inni heddiw.
"Mae 'na stori dda am Eic Davies," meddai Hywel Gwynfryn. "Roedd o wedi bathu'r term 'pàs wrthol' am reverse pass.
"Mi gafodd o air efo Carwyn James, oedd yn chwarae ar y pryd, a gofyn iddo wneud reverse pass yn ystod gêm er mwyn i'r sylwebwyr ar y radio ddefnyddio'r term newydd, 'pàs wrthol'... Ac mi wnaeth o!"
Yn ystod ymgyrch Euro 2016 - roedd cyfleu y term 'qualify' yn Gymraeg yn gallu bod yn broblem i newyddiadurwyr hefyd - er yn broblem bleserus iawn!
Ond beth yw hoff fathiad Hywel Gwynfryn?
"'Co bach am USB. Mae hwnnw'n wych, un o'r rhai gorau."