Uwch Gynghrair Cymru'n 'fwy proffesiynol' wrth ddathlu'r 25
- Cyhoeddwyd
Nos Sadwrn bydd Caerdydd yn llwyfannu un o'r gemau mwyaf yng nghalendr pêl-droed y byd i goroni blwyddyn fythgofiadwy i'r gamp yng Nghymru.
Mae llawer o sylw wedi cael ei roi i'r ffeinal rhwng Juventus a Real Madrid tra bod proffil y tîm cenedlaethol wedi cynyddu wedi pencampwriaeth Euro 2016.
Un digwyddiad pwysig arall yn y byd pêl-droed yng Nghymru eleni yw pen-blwydd Uwch Gynghrair Cymru yn 25 oed.
Yn 1992, daeth Cynghrair Cymru fel yr oedd hi i fodolaeth dan arweiniad cyn-ysgrifennydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC), y diweddar Alun Evans.
Ar y pryd roedd statws Cymru fel gwlad annibynnol dan oruchwyliaeth FIFA dan fygythiad, gan fod y prif glybiau yng Nghymru yn chwarae pêl-droed yn Lloegr.
Felly beth sydd wedi newid dros y chwarter canrif?
Un peth amlwg sydd wedi aros yn debyg yw maint y torfeydd sy'n dod i wylio'r gemau. Yn 1992 roedd cyfartaledd torf mewn gêm yn 236 i gymharu gyda 306 y tymor diwethaf.
'Mwy proffesiynol'
Mae ysgrifennydd presennol Uwch Gynghrair Cymru yn teimlo bod "safon y gemau ddim yn denu'r dorf maen nhw yn ei haeddu".
"Heb os, mae safon y chwarae a chyflwr y meysydd wedi gwella yn y 25 mlynedd," meddai Gwyn Derfel.
"Mae'r gynghrair yn llawer mwy proffesiynol ac mae 'na werth masnachol i'r gynghrair bellach".
Dywedodd bod hyn yn rhannol oherwydd cyflwyno trwydded ddomestig CBDC yn 2005-06, sy'n rhestru meini prawf llym sy'n rhaid i glwb eu cyrraedd os ydyn nhw am gystadlu yn yr Uwch Gynghrair.
Dim ond pedwar o'r timau wnaeth sefydlu'r gynghrair sy'n dal i gystadlu ynddi heddiw - Bangor, Y Drenewydd, Cei Connah ac Aberystwyth.
Mae'r gweddill naill ai wedi diflannu neu'n chwarae yng nghynghreiriau is y pyramid pêl-droed - yn eu plith mae Cwmbrân, enillwyr cyntaf y gynghrair, sydd bellach yng nghynghrair lleol Sir Fynwy.
Cafodd nifer y timau yn y gynghrair ei gwtogi o 20 i 12 yn 2010, gyda'r bwriad o geisio gwella safon y gystadleuaeth.
Yn ôl Mr Derfel mae'r newid wedi gweithio, ond ychwanegodd bod "63% o bobl a holwyd mewn holiadur yn dweud bod elfen o fod yn or-gyfarwydd â'r timau".
Un sydd wedi bod ynghlwm â'r gynghrair fel rheolwr a gwyliwr yw Glyn Griffiths.
Roedd yn rheolwr ar Dreffynnon rhwng 1992 a 1997, ac fe lwyddodd i gadw'r clwb yn yr Uwch Gynghrair tan 1996.
"Dwi ddim yn credu bod gwell chwaraewyr yn chwarae yn y gynghrair heddiw ond bod perfformiadau'r timau yn well i beth oedd 'na nôl yn y 90au," meddai.
Dywedodd bod yr honiad bod torfeydd yn fach gan fod dim digon o chwaraewyr lleol yn chwarae yn y timau yn ei "wylltio".
"Mi ddweda' i hyn, os ydy chwaraewr lleol ddigon da i chwarae i'w dîm yna digon teg", meddai.
"Mae hon yn gynghrair genedlaethol a phrif gynghrair Cymru. Dim cynghrair leol ydy hi. Mae rhaid denu'r chwaraewyr gorau i gystadlu yn y gynghrair."
'Gwerthu syniad y clwb'
Ychwanegodd mai'r ffordd i glybiau ddenu mwy o sylw ydy drwy "wneud mwy o ymdrech yn lleol i farchnata ac i werthu syniad eu clwb".
"Mae ddigon hawdd sefydlu academies i'r chwaraewyr gorau, ond beth am y chwaraewyr ifanc lleol hynny sydd ddim digon da i chwarae i'r academies?
"Mae rhaid cofio am y rheiny a pheidio eu 'sgubo i'r ochr... Mewn degawdau i ddod mi fydd presenoldeb y bobl ifanc hynny yn y dorf yn cefnogi'r tîm yn llawn mor bwysig", meddai.
Ers ei sefydlu mae 39 o glybiau wedi cystadlu yn y gynghrair.
Un clwb fydd nôl yn Uwch Gynghrair Cymru tymor nesaf fydd Y Barri, wnaeth ennill y gystadleuaeth ar saith achlysur hyd at 2003, cyn iddyn nhw wynebu problemau ariannol.
Mae eu cadeirydd, Eric Thomas, wedi bod yn cadw llygaid ar y gynghrair o'r tu allan.
"Mae nifer o glybiau'r de yn hapus i chwarae un safon o dan yr Uwch Gynghrair, ond nid y Barri," meddai.
"Dwi wedi bod yn cadw llygaid ar y gynghrair ers blynyddoedd ac wedi gweld ei datblygiad hi yn y blynyddoedd diweddar.
"Mae'n deimlad anhygoel bod 'nôl... Roedden ni fel pwyllgor wedi gosod cynllun pum mlynedd i sicrhau dyrchafiad, mi oedden ni'n agos y llynedd ac wedi llwyddo eleni, blwyddyn ynghynt na'r disgwyl".
Uchelgais Y Barri yw cystadlu unwaith eto ar lefel Ewropeaidd, a chyn hir fe fydd y clybiau sydd wedi cyrraedd yn lefel honno yn darganfod pwy fydd eu gwrthwynebwyr ar y cyfandir.
Ond fe fydd rhaid i'r Seintiau Newydd chwarae yng Nghynghrair y Pencampwyr heb eu rheolwr Craig Harrison, sydd wedi gadael i gymryd yr awenau yn Hartlepool. Y Bala, Cei Connah a Bangor fydd yn cynrychioli Cymru yng Nghynghrair Europa.
Mae Gwyn Derfel yn ffyddiog bydd un o'r clybiau yn mynd gam ymhellach eleni yn Ewrop.
"Mae perfformiadau clybiau Cymru ar y llwyfan Ewropeaidd yn gwella.
"Ein prif her fel cynghrair at y dyfodol yw cael mwy o sylw drwyddi draw yn y cyfryngau torfol, wnaiff gynorthwyo i gynyddu'r torfeydd.
"Dwi'n falch o ddweud hefyd bod ein cytundeb gyda S4C i ddarlledu 29 o gemau byw drwy'r tymor yn parhau, sydd eto yn hwb i'r clybiau gan eu bod nhw'n gallu manteisio o'r arian darlledu er mwyn datblygu.
"Er bod un tymor wedi dod i ben gyda rownd derfynol yng Nghaerdydd, dydy gwaith ysgrifennydd cynghrair debyg i hon byth yn stopio, a dwi'n edrych ymlaen at y tymor nesa' yn barod".